Illia Kiriak: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Adda'r Yw y dudalen Illia Kyrijak i Illia Kiriak
B dol
Llinell 4:
Ganwyd ym mhentref Zavallya (neu Zawale) ger [[Sniatyn]], yn Nheyrnas Galicia a Lodomeria, a leolir heddiw yn [[Oblast Ivano-Frankivsk]] yng ngorllewin [[yr Wcráin]]. Ymfudodd i Ganada yn ystod ei arddegau, tua 1907, ac ymsefydlodd yn [[Edmonton]], [[Alberta]]. Yno astudiodd ym [[Prifysgol Alberta|Mhrifysgol Alberta]], a gweithiodd fel athro mewn ysgolion gwledig y dalaith. Cyhoeddodd lyfr darllen llwyddiannus, ''Marusia'' (1947), ar gyfer plant oedd yn derbyn [[Yr iaith Wcreineg yng Nghanada#Addysg|addysg Wcreineg yng Nghanada]]. Ni chafodd deulu. Bu farw yn Edmonton yn 67 oed.<ref>Jars Balan, "The Populist Patriot: The Life and Literary Legacy of Illia Kiriak" yn ''Re-Imagining Ukrainian-Canadians: History, Politics, and Identity'', golygwyd gan Rhonda L. Hinther a Jim Mochoruk (Toronto: Gwasg Prifysgol Toronto, 2011), tt. 129–172.</ref>
 
Hanes epig o deuluoedd o ffermwyr Wcreinaidd yn Nhaleithiau'r Paith yw stori ''Syny zemli'', sef "Meibion y Ddaear". Wedi ei farwolaeth, cyfieithwyd y gwaith i'r Saesneg gan Michael Luchkovich a'i gyhoeddi ar ffurf gryno dan y teitl ''Sons of the Soil'' (1959). Ystyrir ''Syny zemli'' yn un o'r nofelau neu gyfres o nofelau gwychaf yn holl [[llenyddiaeth Wcreineg Canada|lenyddiaeth Wcreineg Canada]]. Nid yw ei straeon byrion nac ei farddoniaeth cystal â'i driawd o nofelau, ac am hynny fe'i gelwir yn ''homo unius libri'' ("dyn y llyfr unigol") gan [[Danylo Struk]].<ref>Danylo Struk, "Ukrainian Emigré Literature in Canada" yn ''Identifications: Ethnicity and the Writer in Canada'', golygwyd gan Jars Balan (Edmonton: Prifysgol Alberta, 1982), t. 92.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==