Tŵr Llundain: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 2:
 
Heneb hanesyddol yng nghanol [[Llundain]] yw '''Tŵr Llundain''' ([[Saesneg]] ''Tower of London''). Saif ar lan ogleddol [[Afon Tafwys]] o fewn bwrdeistref [[Tower Hamlets (Bwrdeistref Llundain)|Tower Hamlets]] yn gyfagos i [[Tower Hill]]. Prif adeilad y tŵr yw'r [[Tŵr Gwyn]], y gaer betryal wreiddiol a adeiladwyd gan [[Wiliam I, brenin Lloegr|Gwilym Gwncwerwr]] ym [[1078]]. Mae'r tŵr cyfan yn cynnwys nifer o adeiladau eraill o fewn dau gylch o fagwyr amddiffynnol a ffos. Defnyddid y tŵr fel caer, fel palas brenhinol ac fel carchar, yn enwedig ar gyfer carcharorion uchel eu statws.
 
Gan fod y Tŵr o bwysigrwydd hanesyddol, ac yn enwedig oherwydd ei rôl eiconig fel adlewyrchiad goresgyniad milwrol diwethaf Lloegr, mae ar restr [[UNESCO]] o [[Safle Treftadaeth y Byd|Safleoedd Treftadaeth y Byd]] ers [[1988]].<ref>{{cite web|title=Tower of London|url=http://whc.unesco.org/en/list/488|website=UNESCO World Heritage Centre|publisher=UNESCO|accessdate=31 Mai 2019}}</ref>
 
== Gruffudd ap Llywelyn ==
Llinell 7 ⟶ 9:
 
Cofnododd yr hanesydd [[Mathew Paris]] y digwyddiad:
:'Tra'r oedd dis ffawd yn dylanwadu ar ddigwyddiadau'r byd fel hyn, yr oedd Gruffudd, mab hynaf Llywelyn, Tywysog Gwynedd, o hyd yn gaeth yng ngharchar yn Nhŵr Llundain... Un noswaith, ar ôl iddo dwyllo'i geidwaid, a phlethu cortyn o gynfasau'i wely a thapestrïau a llieiniau bwrdd, fe'i gollyngodd ei hun, gyda'r rhaff hon, yn syth i lawr o ben y Tŵr. Ac yntau wedi dod i lawr beth ffordd, fe dorrodd y cortyn dan bwysau ei gorff, oherwydd yr oedd ef yn ddyn corfforol a helaeth ei faint, a syrthiodd yntau o uchder mawr; a thrwy hyn fe dorrodd ei wddf a marw.'<ref>Cyfieithiad o'r [[Lladin]] yn, David Fraser, ''Yr Amddiffynwyr'' (Caerdydd, 1967), t. 118.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==