Iwan Roberts (actor a cherddor): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 5:
Ganed Iwan Roberts yn nrhef [[Dolgellau]], [[Gwynedd]] ym 1967. Cychwynodd ei yrfa fel actor yn ifanc, drwy berfformio mewn sawl Eisteddfod leol, gan gynnwys Eisteddfod Stesion ac Eisteddfod Llawr Plwy', yn ogystal a pherfformio yn [[Eisteddfod yr Urdd]] tra'n ddisgybl yn Ysgol Gynradd [[Trawsfynydd]], lle dderbyniodd ei lysenw: "Iwcs". Ar ôl gadael yr Ysgol Uwchradd ([[Ysgol y Moelwyn]], [[Blaenau Ffestiniog]]), gweithiodd Iwcs mewn sawl cynhyrchiant theatr gyda cwmnïau theatr megis Theatr Arad Goch, Theatr Bara Caws, ac eraill, cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf ar y teledu yn y gyfres Rhew Poeth ym 1986. Wedi hynny, ymddangosodd Iwcs ar sawl raglen deledu gan gynnwys treulio cyfnod byr ar ddiwedd y 1980au yn actio yn yr opera sebon ''[[Pobol y Cwm]]'', cyn mynd yn ei flaen i actio mewn cyfresi teledu gan gynnwys y rhaglen gomedi ''[[C'mon Midffild]]''.
Ym 1995, chwaraeodd Iwcs ran y prif gymeriad yn y gyfres ddrama A55, a ddangoswyd ar S4C. Roedd y sioe yn llwyddiant ysgubol, a derbyniodd wobr [[BAFTA Cymru]] am y Gyfres Ddrama Orau. Ym 1996, dewisodd Iwcs arallgyfeirio ei yrfa fel perfformiwr, ac ynghyd â'r gitarydd [[John Doyle]], ffurfiodd y deuawd [[Iwcs a Doyle]]. Ym Mhontrhydfendigaid ar Fawrth y 1af 1996, ennillodd Iwcs a Doyle y gystadleuaeth flynyddol [[Cân i Gymru]].
Yn 2005, cyfansoddodd a recordiodd Iwcs albwm ar ben ei hun o'r enw ''[[Cynnal Fflam]]''. Cafodd yr albwm ei rhyddhau ar y label [[Gwynfryn Cymunedol]], sydd wedi ei leoli yn [[Waunfawr]].<ref>[http://www.gwynfryncymunedol.co.uk/cymraeg/GCCD25.html]</ref> <ref>[http://www.na-nog.com/site/product.aspx?productuid=247961&clickproductonpage=/site/category.aspx?categoryid=365&page=5&pagesize=10]</ref>
|