Môr lawes: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol (ap) Golygiad trwy'r ap Android
Llinell 1:
[[Delwedd:Giant_Squid_NASA.jpg|alt=Photo of squid with prominent eye|bawd|300px|Môr lawes enfawr (Saesneg: giant squid)]]
SeffalopodauSeffalopod o'r uwch-ddosbarth '''decapodifformau''' gyda chyrff hir, llygaid mawr, wyth coes a dau dentacl yw'r '''môr lawes''', '''môr-gyllell''' neu '''sgwid'''. Fel pob seffalopod arall, mae gan sgwid ben o natur benodol, cymesuredd dwyochrog, a mantell. Mae eu cyrff yn feddal gan fwyaf, fel octopysau, ond mae ganddynt sgerbwd mewnol bach ar ffurf gladius tebyg i wialen wedi'i wneud o [[citin]].
 
Ymwahanodd y '''fôr lawes''' oddi wrth seffalopodau eraill yn ystod y Cyfnod [[Jwrasig]] ac mae'n cymryd rôl debyg i bysgod teleost fel ysglyfaethwyr dŵr agored o faint ac ymddygiad tebyg. Maent yn chwarae rhan bwysig yn y we bwyd dŵr agored. Defnyddir y ddau dentacl hir i afael yn yr ysglyfaeth a'r wyth braich i'w ddal a'i rheoli. Yna mae'r pig yn torri'r bwyd yn ddarnau maint addas ar gyfer llyncu. Mae môr lewys yn nofwyr cyflym, yn symud trwy yrriant jet, ac yn lleoli eu hysglyfaeth yn bennaf gan ddefnyddio eu golwg. Maent ymhlith y mwyaf deallus o [[Infertebrat|greaduriaid infertebrat]], ac mae grwpiau o fôr lawys Humboldt wedi eu gweld yn hela ar y cyd. Mae [[Morgi|siarcod]], pysgod eraill, adar y môr, [[Morlo|morloi]] a [[Morfiligion|morfilod]] yn eu bwyta, yn enwedig [[Morfil Sberm|morfilod sberm]] .