Albert Evans-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 10:
''A bysedd glas y pethau mud''

''A glic eu gynnau bron i gyd?''

==Gyrfa Ar ôl y Rhyfel==
Wedi dod o'r fyddin aeth Cynan i [[Goleg y Bala]] i hyfforddi ar gyfer weinidogaeth y Methodistiaid Calfinaidd. Ordeiniwyd ef ym [[Mhenmaenmawr]] Sir Gaernarfon ym 1920 lle bu'n gwasanaethu fel gweinidog hyd 1931. Rhoddodd y gorau i'w alwad ym 1931 a chafodd ei benodi'n diwtor yn Adran Efrydiau Allanol Coleg Prifysgol Gogledd Cymru yn arbenigo mewn Drama a Llenyddiaeth Cymru. Er iddo roi'r gorau i'r weinidogaeth parhaodd Cynan i bregethu yn rheolaidd, ac roedd yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei ddydd ym mhulpudau anghydffurfiol Cymru.

Trwy gydol ei gyfnod yn gweithio yn y Brifysgol bu Cynan yn byw ym [[Mhorthaethwy]] Sir Fôn, ond yn ei gerdd fwyaf poblogaidd mae o'n mynegi dymuniad i ymddeol i Aberdaron:<ref>Hoff Gerddi Cymru, Gol:Di-enw, Gwasg Gomer 2000</ref>

''Pan fwyf yn hen a pharchus''

''Ac arian yn fy nghod,''

''A phob beirniadaeth drosodd''

''A phawb yn canu 'nghlod''

''Mi brynaf fwthyn unig''

''Heb ddim o flaen y ddôr.''

"Ond creigiau Aberdaron''

''A thonnau Gwyllt y Môr''