Albert Evans-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 35:
Mae Cynan yn cael ei gofio yn bennaf am ei gyfraniad enfawr i'r Eisteddfod Genedlaethol. Bu'n Archdderwydd ddwywaith, y unig berson i gael ei ethol i'r swydd am ail dymor. Ei dau dymor oedd o 1950 hyd 1954 ac o 1963 hyd 1966. Yr oedd yn Cofiadur yr Orsedd ym 1935, ac yn y cyd-ysgrifennydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1937 Ef oedd yr Archdderwydd cyntaf i dderbyn yn gyhoeddus mae dyfais Iolo Morgannwg oedd yr orsedd ac nad oedd ganddo unrhyw gysylltiadau a derwyddiaeth hynafol, trwy wneud fe leihaodd rhwyg a oedd yn bodoli rhwng yr Eisteddfod a rhai yn y byd eglwysig ac academaidd
Cynan oedd yn gyfrifol am gynllunio seremonïau modern Coroni a Chadeirio'r Bardd yn yr Eisteddfod fel y maent yn cael eu perfformio yn awr, gan greu seremonïau, a oedd, yn ei dyb ef yn adlewyrchu ysbryd y Genedl Cymru.
 
Enillodd y Goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1921]] gyda'r gerdd "Mab y Bwthyn", ac eilwaith yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru yr Wyddgrug 1923|yr Wyddgrug 1923]] gyda "Yr Ynys Unig". Enillodd y Gadair yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Pont-y-pwl 1924]] am ei gerdd "I'r Duw nid Adwaenir", ond nid awdl ar y pedwar mesur ar hugain traddodiadol ydoedd; yn hytrach, mesur y tri-thrawiad, sef mesur a ddyfeiswyd gan [[Iolo Morganwg]].