Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Ynys Dewi"

Ychwanegwyd 44 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
B (→‎top: Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB)
No edit summary
{{Gwybodlen lle|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
 
Mae '''Ynys Dewi''' ([[Saesneg]]: ''Ramsey Island'') yn ynys oddi ar arfordir [[Sir Benfro|Penfro]], gyferbyn â [[Tyddewi|Thyddewi]].
 
==Daearyddiaeth==
[[Delwedd:Ramsey Island, view from Sint-David's, Wales, UK.JPG|300px|bawd|'''Ynys Dewi''' o Dyddewi]]
Amgylchynir yr ynys â chlogwyni syrth ac mae'r môr yn rhedeg yn gyflym o'i chwmpas. Ei hyd yw 3.2 km. Mae'n cynnwys 600 erw o dir ac yn codi i 445' (135m) yn ei phwynt uchaf. Mae ei chreigiau'n perthyn i'r cyfnod [[Ordoficiaidd]] yn bennaf. Ceir nifer o [[ffosil]]au yng ngogledd yr ynys.
 
==Hanes==
Mae olion dau [[Capel|gapel]] bach, neu ddwy gell feudwy, ar yr ynys. Gerllaw y mae adfeilion [[clas]] (hen fynachlog) a sefyflwyd gan [[Defynog|Ddefynog Sant]] yn gynnar yn [[Oes y Seintiau yng Nghymru|Oes y Seintiau]]. Yn ôl traddodiad, yno y cyfarfu [[Dewi Sant]] a [[Sant Padrig]]. Darganfuwyd eirch carreg ar y safle.
[[Delwedd:Ramsey Island, basalt rock formation near Porth Lleuog - geograph.org.uk - 913661.jpg|bawd|chwith|Creigiau basalt ger Porth Lleuog.]]
 
Dywedir fod un o'r capeli bach yn gell feudwy i [[Sant Iestyn]] ([[Lladin]], ''Justinian'', neu ''Stian'') tua'r flwyddyn [[500]]. Meudwy o [[Llydaw|Lydaw]] oedd Iestyn. Ymsefydlodd ar yr ynys gyda'i ddisgybl Honorius a'i chwaer a'i morwyn hithau. Rhoddodd Dewi Sant dir iddo ar yr ynys ac ar y tir mawr. Yn ôl traddodiad llofruddiwyd Iestyn gan ei weision gan dorri ei ben, ond cododd y sant ei ben i fyny a cherdded dros y tonnau i'r tir mawr. Gofynnodd i gael ei gladdu yno; mae olion [[Capel Iestyn]] i'w gweld yno heddiw. Yn ddiweddarach dadgladdiwyd ei gorff a chafodd ei osod yn ymyl Dewi Sant yn eglwys gadeiriol Tyddewi. Dywedir fod ffynnon ar Ynys Dewi i ddynodi'r llecyn lle syrthiodd pen y sant gan achosi dŵr i ffrydio o'r ddaear.
==Natur==
Mae'r ynys yn warchodfa natur ac yn gartref i filoedd o [[adar]] môr. Mae mwy na 30 math o adar yn nythu arni. Mae adar fel [[Cigfran|cigfrain]], [[Hebog|hebogiaid gleision]], [[Gwylan Goesddu|gwylanod coesddu]] a gwylanod eraill i'w gweld yn rheolaidd. O gwmpas yr ogofeydd ac ar y traethau bach niferus gwelir [[Morlo|morloi llwydion]] ym mis Awst a Medi.
 
[[Delwedd:Ramsey Island, basalt rock formation near Porth Lleuog - geograph.org.uk - 913661.jpg|bawd|chwith|Creigiau basalt ger Porth Lleuog.]]
[[Delwedd:Ramsey Island, view from Sint-David's, Wales, UK.JPG|300px|bawd|'''dim|Ynys Dewi''' o Dyddewi]]
 
==Cyfeiriadau==