Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Meic Stevens"

Ychwanegwyd 32 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
dim crynodeb golygu
| enwarall = Meic Stevens, Y Brawd Hwdini
| geni = {{dyddiad geni ac oedran|1942|3|13}}
| llegeni = {{Baner|Cymru}} [[Solfach]], [[Sir Benfro]]
| math = [[Canu gwerin]], [[Acwstig]], [[Y felan]]
| offeryn = [[llais]], [[gitâr]], [[gitâr fâs]], [[harmonica]],
}}
 
Mae '''Meic Stevens''' (ganwyd 13 Mawrth 1942) yn ganwr, ysgrifennwr caneuon a cherddor [[Cymraeg]] sy'n cael ei ddisgrifio'n aml fel "y [[Bob Dylan]] Cymreig". Mae wedi cael ei gymharu hefyd gyda cherddorion fel [[Syd Barrett]]. Cafodd ei eni yn [[SolfaSolfach]], [[Sir Benfro]]. Mae Meic yn canu yn y Gymraeg yn bennaf ac wedi dod yn un o'r ffigyrau mwyaf adnabyddus y byd [[cerddoriaeth Gymraeg]].
 
Cafodd ei "ddarganfod" yn ôl ym [[1965]] gan y DJ [[Jimmy Savile]], a'i welodd yn perfformio mewn clwb [[canu gwerin]] ym [[Manceinion]]. Y canlyniad oedd i Meic Stevens ryddhau ei sengl cyntaf - wedi'i drefnu gan [[John Paul Jones (cerddor)|John Paul Jones]] (a aeth ymlaen i fod yn aelod o [[Led Zeppelin]]) - i [[Decca Records]] yn yr un flwyddyn (ond ni werthodd yn dda o gwbl).
 
Yn 1967 dioddefodd o broblemau meddyliol ac aeth yn ôi i [[SolfaSolfach]] i adfer ei iechyd. Dechreuodd ysgrifennu caneuon Cymraeg mewn ymdrech ymwybodol i geisio creu [[pop Cymraeg|cerddoriaeth boblogaidd nodweddiadol Gymreig]]. Rhwng 1967-69 recoriodd gyfres o EPs Cymraeg (''Rhif 2'', ''Mwg'', ''Y Brawd Houdini'', ''Diolch Yn Fawr'', ''Byw Yn Y Wlad'') i stiwdios [[Sain]] a Wren. Perfformiodd ar draws Prydain hefyd yn y [[1960au]] (er enghraifft i'w gyfaill Gary Farr ar ei albym cyntaf i label Marmalade). Gwnaeth ei unig albym LP yn y Saesneg, ''Outlander'', i [[Warner Bros.]] yn [[1970]]. Fel ei LPs eraill o'r cyfnod hwnnw, fel ''Gwymon'' a ''Gôg'', mae'n albym prin heddiw.
 
Gellir clywed dylanwad brand arbennig Meic Stevens o roc gwerin yng ngwaith bandiau Cymraeg cyfoes fel [[Super Furry Animals]] a [[Gorky's Zygotic Mynci]]. Yn ddiweddar cafwyd fersiwn ''cover'' o'i gân "Cwm y Pren Helyg" gan [[Alun Tan Lan]].
101

golygiad