Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Caryl Bryn"

Ychwanegwyd 271 beit ,  blwyddyn yn ôl
dim crynodeb golygu
Graddiodd â BA o [[Prifysgol Bangor|Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor]] yn 2017. Dechreuodd astudio am radd MA yno yn 2018.
 
Fis Hydref 2018, cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru ar y cyd â [[Manon Awst]], [[Osian Owen]] a [[Morgan Owen (bardd a llenor)|Morgan Owen]]. Mae'n aelod o grŵp barddol benywaidd [[Cywion Cranogwen]] sydd yn teithio ledled Cymru â'u sioeau amlgyfrwng.<ref>{{Cite web|url=https://www.facebook.com/CywionCranogwen/|title=Cywion Cranogwen|access-date=2019-02-26|website=www.facebook.com|language=cy}}</ref> Mae wedi cyhoeddi ei gwaith yn ''[[Barddas (cylchgrawn)|Barddas]]'' a'r ''[[Y Stamp|Stamp]]'' ymysg cyhoeddiadau llenyddol eraill ac yn 2017, hi oedd enillydd cystadleuaeth cyfansoddi cerddi [[Mudiad Ysgolion Meithrin|Mudiad Meithrin]] i fyfyrwyr prifysgolion Cymru. Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Goron yn [[Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd]] Caerdydd a'r Fro 2019.<ref>{{Cite news|url=https://www.bbc.com/cymrufyw/48474380|title=Brennig Davies yn cipio Coron yr Urdd|date=2019-05-31|language=en-GB|access-date=2019-06-04}}</ref>
 
Cafodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth a rhyddiaith, ''Hwn ydy'r llais, tybad?'', ei rhyddhau gan [[Cyhoeddiadau'r Stamp|Gyhoeddiadau'r Stamp]] ym mis Ebrill 2019. Mae'r teitl yn ddyfyniad o'r nofel gan [[Caradog Prichard]], ''[[Un Nos Ola Leuad]].'' Nodwyd yn rhifyn Chwefror 2019 o [[Podlediad Clera|Bodlediad Clera]]<ref>{{Citation|title=Clera Chwefror 2019|url=https://soundcloud.com/podlediad_clera/clera-chwefror-2019|language=cy|access-date=2019-02-26}}</ref> y byddai'r wasg hefyd yn rhyddhau nifer gyfyngedig o CDs o Caryl yn darllen ei gwaith i gyd-fynd â'r gyfrol.
Defnyddiwr anhysbys