Esblygiad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
hi
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
hello
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 1:
==Syniadau newydd Darwin: esblygiad drwy [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]]==
[[Charles Darwin]] a [[Gregor Mendel]] yw sylfaenwyr damcaniaeth esblygiad fodern. Cyflwynodd Darwin ei syniadau am [[detholiad naturiol|ddetholiad naturiol]] yn 1859. Roedd y syniad yma yn hanfodol bwysig i syniadau Darwin.
 
Dyma rai o gonglfeini detholiad naturiol:
 
#Pe bai pob [[organebau byw|organeb]] yn atgynhyrchu'n llwyddiannus, yna byddai poblogaeth y rhywogaeth hwnnw yn cynyddu tu hwnt i reolaeth<ref>Gweler: The Structure of Evolutionary Theory gan Stephen J Gould, cyhoeddwr: Harvard University Press, 2002, tudalen 1433; isbn = 0674006135</ref>
#Mae adnoddau pob amgylchedd yn gyfyngedig (e.e. hyn-a-hyn o goed sydd ar ynys)
#Mae organebau yn wahanol, ac nid oes byth ddau organeb yn union yr un fath; mae gan bob rhywogaeth, felly, gyfoeth o amrywiaeth ac mae amrywiaeth hefyd, wrth gwrs, yn bodoli rhwng rhywogaethau.
#Nid yw'r rhan fwyaf o'r epil yn goroesi (2% o bysgod sydd yn goroesi o'r epil (neu'r wyau) sydd yn cael ei gynhyrchu.)
#Bydd y rhai sy'n goroesi yn atgenhedlu a phasio eu nodweddion i'r genhedlaeth nesaf.
#Felly mae'r nodweddion sy'n galluogi'r unigolyn i oroesi yn cael eu cadw yn y boblogaeth.
 
Dyma rai o'r ffactorau sy'n penderfynu pa organebau sy'n goroesi:
 
#Ysglyfaethwyr
#Afiechyd
#Cystadlaeth am fwyd
#Cystadlaeth am dir neu (yn enwedig mewn planhigion) am olau ayyb.
 
Gelwir effaith y ffactorau hyn yn 'Ddetholiad Naturiol'.
 
Ar y pryd doedd Darwin ddim yn gwybod am gromosomau, ond erbyn heddiw rydym yn gwybod mai cromosomau sydd yn cludo gwybodaeth etifeddol.
 
==Syniadau gwyddonol yn newid==
Fel mae gwybodaeth gwyddonol yn newid, oherwydd tystiolaeth neywdd, mae ein syniadau am bethau yn newid. Yn amser Darwin roedd y mwyafrif o bobl yn credu bod y rhywogaethau naturiol sy'n byw ar y ddaear wedi cael eu creu mewn chydig ddyddiau ac eu bod wedi goroesi heb newid ers hynny. Gelwir hyn yn Greadaeth (o'r gair 'creu'). Cafodd Darwin lawer o bobl crefyddol yn gwrthwynebu ei syniadau gwyddonol newydd. Erbyn heddiw, mae'r rhan fwyaf o [[gwyddonydd|wyddonwyr]] yn derbyn mai detholiad naturiol, ynghyd â mecaniaethau esblygiadol eraill, sy'n gyfrifol am amrywiaeth bywyd.