Ymerodraeth y Gupta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Porius1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '300px|thumb|Ymerodraeth y Gupta ar ei uchafbwynt Ymerodraeth yn India oedde '''Ymerodraeth y Gupta''' ([[Sansgrit]...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 06:21, 17 Awst 2010

Ymerodraeth yn India oedde Ymerodraeth y Gupta (Sansgrit, गुप्त, gupta). Y cyntaf o frenhinoedd pwysig y Gupta oedd Chandragupta I (teryrnasodd ca. 320-335). Unodd lawer o'r teyrnasoedd bychain oedd wedi datblygu ers cwymp ymerodraeth y Kushana. LLedaenwyd ffiniau'r ymerodraeth gan ei fab, Samudragupta (335-375). Cipiodd ef Pataliputra yn Magadha,a ddaeth yn brifddinas y Gupta yn ddiweddarach. Dan ei faqb yntau, Chandragupta II (375-413/15) daeth yr ymerodraeth yn un o'r grymoedd mawr.

Ymerodraeth y Gupta ar ei uchafbwynt

Brenhinoedd y Gupta

  • Gupta (ca. 275-300)
  • Ghatotkacha (ca. 300-320)
  • Chandragupta I (320-335)
  • Samudragupta (335-375)
  • Ramagupta um 375 (?)
  • Chandragupta II (375-413/5)
  • Kumaragupta I (415-455)
  • Skandagupta (455-467)
  • Purugupta (ca. 467-472)
  • Narasimhagupta Baladitya (ca. 472/73)
  • Kumaragupta II (ca. 473-476)
  • Budhagupta (ca. 476-495)
  • mae aqnsicrwydd am y sefyllfa o gwmpas 500:
    • Chandragupta III.
    • Vainyagupta 507 (yn Bengal?)
    • Bhanugupta 510 (yn Malwa?)
    • Narasimhagupta Baladitya II ca. 500-530 (yn Magadha?)
  • Kumaragupta III Kramaditya (ca. 532)
  • Vishnugupta Chandraditya (ca. 550)