Mudoledd cymdeithasol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
dp
Tagiau: Golygiad cod 2017
ehangu, llun
Tagiau: Golygiad cod 2017
 
Llinell 1:
Symudiad unigolion, teuluoedd, neu grwpiau cymdeithasol o un safle gymdeithasol i un arall yw '''mudoledd cymdeithasol'''. Dynodir safleoedd yn uwch neu'n is yn ôl rhyw raddfa o statws, hynny yw [[haeniad cymdeithasol]] megis cyfundrefn [[dosbarth cymdeithasol|dosbarthiadau]]. Nod [[egalitariaeth]] yw sicrhau'r cyfle i bob unigolyn allu gwella ei [[statws economaidd-gymdeithasol]], neu i'r unigolyn ennill ei le yn y gymdeithas o ganlyniad i'w ddoniau, y drefn a elwir [[meritocratiaeth]]. Yn y gymdeithas bur feritocrataidd, ni fyddai dosbarth economaidd-gymdeithasol y plentyn yn effeithio o gwbl ar ddosbarth yr oedolyn.<ref name=Routledge/>
 
[[Delwedd:Going up or down advertisement.jpg|bawd|Hen hysbyseb Americanaidd ar gyfer [[ysgol ohebol]] (1916). Mae'r llun yn awgrymu byddai dyn sy'n cael addysg yn gwella safle economaidd ei hunan, ac erbyn 50 oed yn ennill ddengwaith gymaint o gyflog â dyn arall.]]
Mewn [[hierarchaeth]]au hanesyddol, megis [[ffiwdaliaeth]] a'r gyfundrefn gast, nid oedd y mwyafrif helaeth o bobl yn disgwyl gwella'u safle ym mywyd, a chafodd haenau cymdeithas eu hystyried yn amod naturiol na ellir ei newid. Yn [[y cyfnod modern cynnar]], yn sgil goblygiadau [[diwydiannu]] a thwf [[democratiaeth]], datblygodd y syniad a'r arfer o ddosrannu swyddi yn ôl doniau'r unigolyn, yr hyn a elwir ''carrière ouvert aux talents'' ("gyrfa yn agored i dalent") gan [[Napoleon I, ymerawdwr Ffrainc|Napoléon]].<ref name=Routledge/> Yn y gymdeithas ddiwydiannol fodern, mudoledd yn nhermau [[galwedigaeth]] yw mudoledd cymdeithasol yn bennaf. [[Addysg]] ac [[hyfforddiant]] ydy'r prif foddion o gyrraedd safle uwch, hynny yw mewn swydd fedrus. Er hynny, mae manteision o hyd gan blant y dosbarthiadau uwch: arian, cysylltiadau, a braint gymdeithasol.<ref>Daniel Bell, "Social mobility" yn ''The Fontana Dictionary of Modern Thought'', golygwyd gan Alan Bullock ac Oliver Stallybrass (Llundain: Fontana, 1977), t. 581.</ref>
 
Mae'r rhan fwyaf o ymchwil yn y maes hwn yn cymryd barn o werth mudoledd cymdeithasol, yn unol â damcaniaeth "rhesymeg diwydiannaeth": mae hunanwellhad galwedigaethol o les i bawb, ac nid yw'r ''homo economicus'' hunangeisiol yn dymuno gweithio'r un grefft neu lafur â'i dad. Mae cymdeithasegwyr ac economegwyr yr adain chwith hefyd yn ymdrin â'r maes gyda gogwyddion ideolegol, ac yn cymryd yn ganiataol bod cyfraddau isel o fudoledd yn groes i ddiddordebau a dymuniadau'r dosbarthiadau isaf.<ref name=Routledge>David Robertson, ''The Routledge Dictionary of Politics'' 3ydd argraffiad (Llundain: Routledge, 2004), tt. 450–1.</ref>
 
== Cyfeiriadau ==