Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "AIDS"

Lleihawyd o 1 beit ,  10 o flynyddoedd yn ôl
== Hanes ==
 
Cafwyd yr adroddiad cyntaf o AIDS ar y [[5 Mehefin|5ed o Fehefin]], [[1981]] pan gofnododd Canolfan Rheoli ac Atal Afiechydon yr [[Unol Daleithiau]] glwstwr o Niwmonia Pneumocystis carinii (sydd dal i gael ei alw'n PCP er ei fod yn cael ei achosi gan Pneumocystis jirovecii) ymhlith pum dyn [[hoyw]] yn [[Los Angeles]]. Yn wreiddiol, nid oedd gan y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon enw am yr afiechyd a chyfeiriasant ato yn ôl yr afiechydon a oedd yn gysylltiedig ag ef e.e. lymphadenopathy, Kaposi's Sarcoma a Heintiadau Manteisgar. Yn y wasg, defnyddiwyd y term GRID, a oedd yn dalfyrriad o ''Gay-related immune deficiency''. PanWrth yn ceisiogeisio penderfynu ar enw am y cyflwr, edrychodd y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon ar y cymunedau a effeithiwyd gan yr afiechyd, a defnyddiasant yr ymadrodd “afiechyd y 4H,” oherwydd ymddengys fod yr afiechyd yn targedu Haitïaid, hoywon, hemoffiliacs a defnyddwyr heroin. Fodd bynnag, wedi iddynt ddarganfod nad oedd AIDS yn afiechyd aac effeithio'r gymuned hoyw'n unig, ystyriwyd y term GRID yn gam-arweiniol a chyflwynwyd yr enw AIDS mewn cyfarfod ym mis Gorffennaf 1982. Erbyn mis Medi 1982 dechreuodd y Ganolfan Rheoli ac Atal Afiechydon ddefnyddio'r term AIDS.
 
Awgryma astudiaeth ddiweddar fod HIV mwy na thebyg wedi symud o [[Affrica]] i [[Haiti]] ac yna wedi lledu i'r [[Unol Daleithiau]] tua [[1969]].<ref>Gilbert MT, Rambaut A, Wlasiuk G, Spira TJ, Pitchenik AE, Worobey M (2007). "The emergence of HIV/AIDS in the Americas and beyond". Proc. Natl. Acad. Sci. U.S.A. 104 (47): 18566–70. doi:10.1073/pnas.0705329104. PMID 17978186.</ref>
7,444

golygiad