Welshampton: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Ysgol gynradd Welshampton. Pentref yn Swydd Amwythig, [[Lloegr]...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Pentref yn [[Swydd Amwythig]], [[Lloegr]] yw '''Welshampton'''. Fe'i lleolir ger tref [[Ellesmere, Swydd Amwythig|Ellesmere]], ar y briffordd [[A495]] tua hanner ffordd rhwng [[Croesoswallt]] a [[Whittington, Swydd Amwythig|Whittington]]. Gyda phentrefi bychain Lyneal a Colemere, mae'n rhan o'r ardal a elwir yn 'Ardal y Llynnoedd Gogledd Swydd Amwythig' (''North Shropshire Lake District''). Yn 2001, roedd gan blwyf sifil Welshampton a Lyneal boblogaeth o 839.
 
Mae'r enw 'Welshampton' yn atgof o'r amser pan fu'r rhan yma o Swydd Amwythig yn rhan o [[Teyrnas Powys|Deyrnas Powys]]. Hyd yn oed ar ôl iddo ddod yn rhan o deyrnas [[Mercia]] ac wedyn Swydd Amwythig bu nifer o [[Cymry|Gymry]] yn byw yma, yn agos i hen gwmwd [[Maelor Saesneg]] dros y ffin yng [[Cymru|Nghymru]] (de-ddwyrain [[Wrecsam (sir)|sir Wrecsam]]).
 
[[Categori:Pentrefi Swydd Amwythig]]