Llanrug: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Gwybodlen
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
| aelodseneddol = {{Swits Arfon i enw'r AS}}
}}
Pentref gweddol fawr a chymuned yng [[Gwynedd|Ngwynedd]] yw '''Llanrug''' ({{Sain|Llanrug.ogg|ynganiad}}) . Saif 4 milltir i'r gorllewin o dref [[Caernarfon]], 7 milltir i'r de o [[Bangor|Fangor]] ar y briffordd [[A4086]] rhwng Caernarfon a [[Llanberis]] sydd 3 milltir i'r gogledd orllewin.
 
Llifa [[Afon Rhythallt]] heibio'r pentref, gan newid ei henw i [[Afon Seiont]] ar ôl llifo dan Bont Rhythallt. Mae ysgol uwchradd [[Ysgol Brynrefail]] yma. Yn fras, saif tua hanner ffordd rhwng Afon Menai a'r Wyddfa. I'r dde o'r pentref gwelir ucheldir [[Cefn Du]]; i'r de-ddwyrain cwyd yr Wyddfa a'i chriw, ac i'r dwyrain y ddwy Elidir gyda thomennydd y [[Diwydiant llechi Cymru|chwarel llechi]].
 
Llanrug yw'r pentref mwyaf yn ardal [[Arfon]] yn sir Gwynedd gyda'r canran uchaf (81%) o siaradwyr Cymraeg a phoblogaeth o tua 2,500. Enw gwreiddiol y pentref oedd Llanfihangel-yn-y-Grug a enwyd ar ôl yr eglwys Sant Mihangel sydd tua hanner milltir i'r gorllewin o'r pentref.
 
==Cyfleusterau==
Ceir ysgol gynradd o tua 300 disgybl ac ysgol uwchradd [[Ysgol Brynrefail|Brynrefail]] sydd a dros 700 o ddisgyblion. Mae dwy siop nwyddau cyffredinol (Londis a Spar) a dau dy tafarn yn y pentref gyda gwestai a pharc gwyliau ar gyrion y pentref.
 
Ar y sgwâr ceir swyddfa'r Post ac mae yna siop sglodion, cigydd, delicatesent a barbwr ychydig gamau i lawr ffordd yr Orsaf. Mae gwasanaeth bwsiau'n rhedeg yn rheolaidd drwy'r pentref i gysylltu a Chaernarfon, Llanberis, [[Waunfawr]], [[Deiniolen]] a Bangor.
 
Llinell 39 ⟶ 40:
 
==Pobl o Lanrug==
*[[Einion Offeiriad]], bardd, rheithor y plwyf yn [[1349]].
*[[Peter Bailey Williams]], hynafiaethydd, person Llanrug am flynyddoedd lawer.
*[[Dafydd Ddu Eryri]], bardd, treuliodd y rhan olaf o'i oes yma.
*[[Rhun Williams]], chwaraewr Rygbi proffesiynol..
 
==Cyfeiriadau==