Cyrch a chwta: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1:
{{24 mesur}}
Mae '''Cyrch a chwta''' yn un o [[Pedwar Mesur ar Hugain|Bedwar Mesur ar Hugain]] [[Cerdd Dafod]].
Llunnir cyrch a chwta gyda chwe llinell saith sillaf gyda phennill o [[awdl-gywydd]] yn eu dilyn, gan gynnal un brifodl. Dyma enghraifft o waith [[Goronwy Owen]]:<ref>[[John Morris-Jones]], ''Cerdd Dafod'', Rhydychen, 1925</ref>
:''Neud esgud un a'i dysgo,''
:''Nid cywraint ond a'i caro,''
:''Nid mydrwr ond a'i medro,''
:''Nid cynnil ond a'i cano,''
:''Nid pencerdd ond a'i pyncio,''
:''Nid gwallus ond a gollo''
:''Natur ei iaith, nid da'r w'''edd''';''
:''Nid rhinw'''edd''' ond ar honno.''
Y mae'r chwe llinell gyntaf yn odli, gydag aceniad y prifodlau yn rhydd. Odla'r llinell olaf gyda'r chwe llinell gyntaf, a cheir odl gyrch rhwng terfyn y seithfed linell a gorffwysfa'r llinell glo i gwblhau'r awdl-gywydd.
Yn ôl y llawysgrifau, un o'r tri mesur y ''meddyliawdd'' [[Einion Offeiriad]] amdanynt yw cyrch a chwta. Y ddau arall yw'r [[hir-a-thoddaid]] a'r [[tawddgyrch cadwynog]].
==Gweler hefyd==
Llinell 8 ⟶ 21:
*[[Pedwar mesur ar hugain|Y pedwar mesur ar hugain]]
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau|3}}
[[Categori:Barddoniaeth Gymraeg]]
|