Abaty Aberconwy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Rhedeg AWB i glirio gwallau using AWB
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
Erthygl newydd using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}
[[Delwedd:AberconwyAbbey.JPG|250px|bawd|Eglwys Conwy, safle'r abaty canoloesol.]]
 
[[Image:EglwysConwy.jpg|bawd|250px|Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol.]]
 
[[Delwedd:NMW - Aberconwy Inschrift.jpg|250px|bawd|Carreg gyda arysgrif Ladin yn diolch am rodd i Abaty Aberconwy gan Lywelyn Fawr. Darganfuwyd ym Mhentrefoelas.]]
[[Abaty]] [[Sistersaidd]] oedd '''Abaty Aberconwy''', a safai yn wreiddiol ar safle sydd yn nhref [[Conwy]] heddiw, ac a symudwyd yn ddiweddarach i safle ym [[Maenan]] ger [[Llanrwst]], [[Dyffryn Conwy]]. Yn ystod y [[13eg ganrif|drydedd ganrif ar ddeg]] Abaty Aberconwy oedd yr abaty pwysicaf yng ngogledd Cymru.
 
==Yr abaty cyntaf==
Sefydlwyd abaty Sistersaidd yn Rhedynog Felin ym mhlwyf [[Llanwnda (Gwynedd)|Llanwnda]], ger [[Caernarfon]], ar [[24 Gorffennaf]] [[1186]], gan fintai o fynachod o [[Abaty Ystrad Fflur]]. Bedair neu bum mlynedd yn ddiweddarach, symudasant i Aberconwy, ac ym [[1199]] rhoddwyd tiroedd helaeth i'r abaty gan dywysog newydd [[Teyrnas Gwynedd|Gwynedd]], [[Llywelyn Fawr]]. Ystyrid Llywelyn yn sylfaenydd yr abaty, a chyda'i gefnogaeth ef daeth i feddiannu mwy o diroedd nag unrhyw abaty arall yng Nghymru, dros 40,000 acer (160 km²). Bu farw Llywelyn yn yr abaty ym 1240 a chladdwyd ef yno. Claddwyd ei fab [[Dafydd ap Llywelyn]] yma hefyd ym 1246.
[[Delwedd:AberconwyAbbey.JPG|250px|chwith|bawd|Eglwys Conwy, safle'r abaty canoloesol.]]
[[Image:EglwysConwy.jpg|bawd|250px|Cafodd eglwys abaty Aberconwy yng Nghonwy ei throi yn eglwys y plwyf. Yn y llun gwelir pen gorllewinol yr eglwys. Mae'r porth bwaog a'r tair ffenestr yn perthyn i'r eglwys wreiddiol.]]
[[Delwedd:NMW - Aberconwy Inschrift.jpg|250px|bawd|chwith|Carreg gyda arysgrif Ladin yn diolch am rodd i Abaty Aberconwy gan Lywelyn Fawr. Darganfuwyd ym Mhentrefoelas.]]
 
Ger [[Pentrefoelas]] yn rhan uchaf sir Conwy, darganfuwyd carreg gydag arysgrif [[Lladin]] arni sy'n diolch am rodd gan Lywelyn Fawr i Abaty Aberconwy. Ar y garreg - a gedwir yn [[Amgueddfa Genedlaethol Cymru]] - ceir y geiriau Lladin Cymreig hyn: