Barclodiad y Gawres: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Erthygl newydd using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}
{{coord|53.20703|N|4.50352|W|region:GB_source:cywiki-osgb36(SH329707)|display=title}}
 
[[Delwedd:BarclodiadyGawres.JPG|bawd|Barclodiad y Gawres.]]
[[Delwedd:BarclodiadyGawresTuMewn.jpg|bawd|Golygfa tu mewn.]]
:''Am y garnedd gron yng Nghaerhun, gweler [[Barclodiad y Gawres, Caerhun]].''
[[Siambr gladdu]] [[Neolithig]] yw '''Barclodiad y Gawres'''. Fe'i lleolir ar benrhyn bychan rhwng Porth Trecastell a Phorth Nobla ar arfordir gorllewinol [[Ynys Môn]], ychydig i'r de o bentref [[Rhosneigr]]. Mae [[Llwybr Arfordirol Ynys Môn]] yn mynd heibio iddi.
 
Barclodiad y Gawres yw'r siambr gladdu fwyaf yng Nghymru. Mae'n esiampl o'r beddau cyntedd ar ffurf groes, ar yr un cynllun a nifer o siambrau claddu yn [[Iwerddon]] megis [[Newgrange]]. Nodwedd ddiddorol arall yw bod nifer o'r [[meini Neolithig wedi eu haddurno]] â llinellau igam-ogam. Ychydig iawn o gerrig wedi'u cerfio fel hyn sydd ar gael yng Nghymru: [[Bryn Celli Ddu]], [[Cerrig Neolithig Llanfechell|Llanfechell]], [[Cerrig Cae Dyni|Cae Dyni]] yn Llŷn a [[Cerrig Garn Wen|Garn Wen]] a [[Cerrig Garn Turne|Garn Turne]] ym [[Penfro|Mhenfro]].<ref>Y Faner Newydd, Rhif 47, Gwanwyn 2009</ref>
[[Delwedd:BarclodiadyGawres.JPG|bawd|chwith|Barclodiad y Gawres.]]
[[Delwedd:BarclodiadyGawresTuMewn.jpg|bawd|chwith|Golygfa tu mewn.]]
 
Bu cloddio archeolegol yma yn 1952-3. Un darganfyddiad oedd bod olion sy'n dangos i dân gael ei gynnau yn y rhan ganol, a chawl wedi ei wneud o amrywiaeth ryfedd o anifeiliaid a physgod wedi ei dywallt trosto. Ymddengys fod hyn yn rhan o ryw ddefod.