Caer Dathyl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Erthygl newydd using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}
 
[[Bryngaer]] anhysbys y cyfeirir ati yn chwedl ''[[Math fab Mathonwy]]'', sef [[Pedair Cainc y Mabinogi|bedwaredd gainc y Mabinogi]], yw '''Caer Dathyl''' (amrywiad: '''Caer Dathal'''). Cyfeirir ati fel 'Caer Dathyl yn [[Arfon]]' ond mae ei lleoliad yn ansicr. Yn y chwedl lleolir llys Math fab Mathonwy yno.
 
[[Delwedd:Pen-y-gaer(Conwy).JPG|200px|bawd|chwith|[[Pen-y-gaer]], Dyffryn Conwy.]]
 
Awgrymodd [[John Rhŷs]] ac eraill mai [[Pen-y-Gaer]] ger [[Llanbedr-y-Cennin]], [[Dyffryn Conwy]], a olygir, ond mae'n rhy bell i'r dwyrain. Yn y chwedl mae [[Gwydion]] yn dwyn moch [[Pryderi]] i [[Mochdre (Conwy)|Fochdre]], [[cantref]] [[Rhos]]. Yna mae'n croesi [[Afon Conwy]] i gantref [[Arllechwedd]] ac yn codi creu i'r moch yng [[Creuwryon|Nghreuwryon]] (safle ger [[Tregarth]], ar ochr orllewinol [[Dyffryn Ogwen]]). Oddi yno mae'n mynd yn ei flaen i [[Pennardd|Bennardd]] yn Arfon ac yna i Gaer Dathyl ei hun.