Sarn Helen: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ehrenkater (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Cymru}} }}
 
:''Am y gân o'r un enw gan y [[Super Furry Animals]], gweler [[Mwng (albwm)|Mwng]]''.
 
Defnyddir yr enw '''Sarn Helen''', neu weithiau '''Sarn Elen''', am y [[Ffyrdd Rhufeinig Cymru|ffordd Rufeinig]] oedd yn rhedeg ar hyd ochr orllewinol [[Cymru]] o gaer ''Canovium'' ([[Caerhun]]) yn y gogledd hyd gaer a thref ''Maridunum'' ([[Caerfyrddin]]) yn y de. Credir fod yr enw yn dod o enw [[Elen Luyddog]], gwraig [[Macsen Wledig]] yn ôl y chwedl. Mae'r ffordd o Gaerhun i Gaerfyrddin tua 160 milltir o hyd.
 
[[Delwedd:Sarn Helen Roman road - geograph.org.uk - 197161.jpg|270px|bawd|chwith|Sarn Helen ger Dolwyddelan.]]
Nid oes olion i'w gweld o ran gyntaf y ffordd ar ôl gadael Caerhun, ond credir ei bod yn dilyn glan orllewinol [[Afon Conwy]] cyn belled â [[Trefriw|Threfriw]], lle mae'n rhannu. Mae'r brif fforch yn arwain dros y bryniau i [[Betws y Coed]], tra mae'r llall yn arwain ar gaer fechan [[Caer Llugwy]]. Gellir gweld rhai olion o'r brif ffordd wedi iddi rydio [[Afon Llugwy]], yn dringo dros y bryniau tua [[Dolwyddelan]]. Mae'n rhedeg ar hyd [[Cwm Penamnen]] a heibio rhan uchaf [[Cwm Penmachno]]. Gerllaw [[Ffestiniog]] mae'r ffordd i'w gweld yn eglur am dros ddwy filltir wrth arwain tuag at gaer [[Tomen y Mur]].