Bulla Regia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B →‎top: clean up
Sian EJ (sgwrs | cyfraniadau)
→‎top: Gwybodlen using AWB
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle | gwlad = {{banergwlad|Tiwnisia}} }}
[[Delwedd:Bulla Regia.JPG|300px|bawd|Golygfa yn Bulla Regia]]
 
Mae '''Bulla Regia''' yn ddinas [[Ymerodraeth Rufeinig|Rufeinig]] yng ngogledd-orllewin [[Tiwnisia]]. Fe'i lleolir yn [[Jendouba (talaith)|nhalaith Jendouba]] tua 5 milltir i'r gogledd o ddinas [[Jendouba]], wrth droed bryniau'r [[Kroumirie]].
 
Ceir nifer o [[cromlech|gromlechi]] [[cynhanes]]yddol yn y bryniau i'r dwyrain o'r safle, sy'n dyst i fodolaeth cymunedau brodorol [[Berberiaid|Berber]] yn yr ardal ymhell cyn i'r Rhufeiniaid gyrraedd. Daeth Bulla Regia ei hun i'r amlwg tua'r [[5 CC]] pan sefydlwyd tref Bulla yno gan y [[Carthago|Carthagwyr]] fel rhan o'r broses o sefydlu awdurdod ar ddyffryn [[afon Medjerda|Medjerda]] a'i ddatblygu fel ardal amaethyddol a gyfrannai'n sylweddol yn ddiweddarach at y cyflenwad o [[gwenith|wenith]] i ddinas [[Rhufain]].
[[Delwedd:Bulla Regia.JPG|300px|bawd|chwith|Golygfa yn Bulla Regia]]
 
[[Image:Amphitrite Bulla Regia.jpg|160px|bawd|chwith|Mosaic o [[Amphitrite]] ar lawr fila dan ddaear yn Bulla Regia]]Ychwanegwyd y teitl ''Regia'' i enw'r dref pan ddaeth yn brifddinas i un o'r teyrnasoedd [[Numidia]]idd lleol a flodeuai yn yr ardal am gyfnod dan y Rhufeiniaid ar ôl cwymp [[Carthago]]. Dan yr [[Ymerodraeth Rufeinig]] bu Bulla Regia yn un o'r dinasoedd mwyaf llewyrchus yn [[Affrica (talaith Rufeinig)|nhalaith Rufeinig Affrica]], er na fu erioed yn arbennig o fawr. Cyrhaeddodd ei huchafbwynt yn y [[2ail ganrif|ail]] a'r [[3g]] OC pan godwyd y rhan fwyaf o'r adeiladau sydd i'w gweld ar y safle heddiw. Ar ôl i'r Rhufeiniaid ymadael bu dan reolaeth y [[Ymerodraeth Fysantaidd|Bysantiaid]] am gyfnod a chodwyd caer a ''basilica'' (eglwys) ganddynt yno. Rhoddwyd heibio i'r safle ar ôl i'r [[Arabiaid]] gwncweru Tiwnisia yn y [[7g]].