Lang Lewys: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Thaf (sgwrs | cyfraniadau)
B fformatio cyfeiriadau
Eisingrug (sgwrs | cyfraniadau)
rhelyw = remainder
Llinell 1:
Bardd Cymraeg o [[Morgannwg|Forgannwg]] oedd '''Lang Lewys''' (bl. tua 1480–1520), y cyfeirir ato hefyd fel "'''Lewys Hir'''" gan ei gyfoeswr [[Iorwerth Fynglwyd]]. Un o'r [[Glêr]] oedd Lang Lewys, sef y dosbarth o feirdd 'answyddogol' a grwydrai Gymru yn yr Oesoedd Canol.
 
Yn ôl tystiolaeth Iorwerth Fynglwyd, a gai gryn hwyl am ei ben wrth ei ddychanu, roedd gan Lang wraig o'r enw Lliwelydd. Roedd ganddo enw am fod yn glerwr llawen ac er bod Iorwerth, fel bardd proffesiynol trwyddedig, yn ei ddychanu mae'n amlwg ei fod yn adnabyddus i feirdd proffesiynol eraill Morgannwg ac yn well farddbardd na'r rhelywrhan fwyaf o'i ddosbarth.<ref>G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 59.</ref>
 
[[Cywydd]]au ymryson yw'r unig rai o gerddi Lang sydd ar gael heddiw. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain yn ymwneud â chael nawdd ym mhlasdy Syr Wiliam Mathau yn [[Radur]] ac yn nhŷ Siôn ab Ieuan, trysorwr [[Eglwys Gadeiriol Llandaf]], swydd a sefydliad gyda thraddodiad hir o noddi'r beirdd. Ar sail hyn gellir derbyn mai gŵr o gyffiniau [[Caerdydd]] oedd Lang. Dywedir ei fod yn [[clera]] ar hyd y 'pyrtwai', sef y ffordd fawr a redai ar draws Morgannwg.<ref name="Williams_t60">G. J. Williams, Traddodiad Llenyddol Morgannwg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1948), tud. 60.</ref>