Hanes Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn ychwanegu: ru:История Уэльса
disambig
Llinell 32:
[[Image:CymruMap.PNG|thumb|250px|Teyrnasoedd Cymru.]]
 
Ar ddechrau'r cyfnod roedd rhai rhannau o Gymru, yn enwedig [[Teyrnas Powys|Powys]], yn dod o dan bwysau cynyddol oddi wrth yr [[Eingl-Sacsoniaid]], yn enwedig teyrnas [[Mercia]]. Collodd Powys cryn dipyn o'i thiriogaeth, oedd yn arfer ymestyn i'r dwyrain o'r ffin bresennol, gan gynnwys yr hen ganolfan, [[Pengwern]]. Efallai fod adeiladu [[Clawdd Offa]], yn draddodiadol gan [[Offa]], brenin Mercia]] yn yr [[8fed ganrif]], yn dynodi ffin wedi ei chytuno.
 
Y cyntaf i deyrnasu dros ran helaeth o Gymru oedd [[Rhodri Mawr]], yn wreiddiol yn frenin [[Teyrnas Gwynedd]], a daeth yn frenin Powys a [[Ceredigion]] hefyd. Pan fu ef farw, rhannwyd ei deyrnas rhwng ei feibion, ond gallodd ei ŵyr, [[Hywel Dda]], ffurfio teyrnas [[Deheubarth]] trwy uno teyrnasoedd llai'r de-orllewin, ac erbyn [[942]] roedd yn frenin ar y rhan fwyaf o Gymru. Yn draddodiadol, cysylltir ef a ffurfio [[Cyfraith Hywel]] trwy alw cyfarfod yn [[Hendy-gwyn ar Daf]]. Pan fu ef farw yn [[950]] gallodd ei feibion ddal eu gafael ar Ddeheubarth, ond adfeddiannwyd Gwynedd gan y frenhinllin draddodiadol.
Llinell 74:
Roedd y ddeunawfed ganrif yn gyfnod o barhad o rai agweddau ar fywyd crefyddol a chymdeithasol y ganrif flaenorol ac, ar yr un pryd, yn gyfnod o newidiadau mawr yn y wlad, yn arbennig yn ail hanner y ganrif a osododd [[Cymru]] ar lwybr newydd gyda [[diwydiant]] yn tyfu'n gyflym a phoblogaeth y trefi'n dechrau cynyddu.
 
[[Delwedd:Richard_Wilson_003.jpg|200px|bawd|"[[Yr Wyddfa]] o [[Llyn Nantlle|Lyn Nantlle]]", dyfrlliw gan [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]]]]
Dyma'r ganrif pan oedd y [[Diwygiad Methodistaidd]] mewn bri gyda phobl fel [[Howel Harris]], [[William Williams Pantycelyn]] a [[Daniel Rowland]] yn arwain trwy deithio'r wlad i bregethu o flaen tyrfaoedd mawr. Cafwyd hefyd [[ysgolion cylchynol]] [[Griffith Jones]] yn y ganrif hon a dyma gyfnod gwaith [[Cymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol|Y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristnogol]] (SPCK), yn ogystal. Erbyn diwedd y ganrif yr oedd canran sylweddol o'r boblogaeth yn [[Anghydffurfiaeth|Anghydffurfwyr]] o ryw fath, ond arhosai nifer yn ffyddlon i'r [[Eglwys Loegr|Eglwys]] yn ogystal.
 
Roedd y mwyafrif mawr o'r boblogaeth yn [[Cymry|Gymry]] uniaith [[Gymraeg]] o hyd a'r rhan fwyaf yn byw mewn pentrefi a threfi bach [[cefn gwlad]]. Roedd caneuon gwerin a barddoniaeth rydd yn boblogaidd, yn arbennig adeg y gwyliau mawr fel y [[Gwylmabsant|Gwyliau Mabsant]]. Yn ail hanner y ganrif roedd yr [[anterliwt]] ar ei hanterth a phobl yn tyrru i'r llwyfan yn y ffeiriau, yn arbennig yn siroedd y gogledd-ddwyrain. Cafwyd tyfiant mawr yn y nifer o lyfrau a gyhoeddwyd ynghyd â gwawr [[newyddiaduriaeth]] yng Nghymru gydag ymddangosiad y [[cylchgrawn|cylchgronau]] cyntaf. Gosodwyd sylfeini'r [[Eisteddfod Genedlaethol]] gyda gwaith y [[Gwyneddigion]] yn [[Llundain]] ac yn y cylchoedd llenyddol cafwyd math o Ddadeni gyda bri ar bopeth [[Celtiaid|Celtaidd]] ac ail-ddarganfod meistri'r gorffennol fel [[Dafydd ap Gwilym]] a'r [[Gogynfeirdd]] diolch i waith [[Goronwy Owen]], [[Ieuan Fardd]] a [[Morrisiaid Môn]]. Dechreuodd teithwyr ymweld â'r wlad a gwerthfawrogi ei thirwedd "gwyllt" - y [[twristiaeth|twristiaid]] cyntaf - ac ymledodd dylanwad y [[Mudiad Rhamantaidd]] ar lenorion ac artistiaid y wlad, fel yr arlunydd enwog [[Richard Wilson (arlunydd)|Richard Wilson]].
 
==Y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg==
Llinell 99:
 
[[Delwedd:Triban_Plaid_Cymru.png|250px|bawd|Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] ym [[1925]]]]
Yn chwarter cyntaf y ganrif roedd Cymru yn wlad [[Plaid Ryddfrydol (DU)|Ryddfrydol]] o ran ei [[gwleidyddiaeth]]. Ond y [[PlaidY Blaid Lafur (DU)|Blaid Lafur]] oedd y blaid rymusaf yng Nghymru o'r [[1930au]] ymlaen. Ffurfiwyd [[Plaid Cymru]] a [[Cymdeithas yr Iaith|Chymdeithas yr Iaith]] a sefydlwyd [[Y Swyddfa Gymreig]] yn [[1964]] a [[Cynulliad Cenedlaethol Cymru|Chynulliad Cenedlaethol Cymru]] ym [[1999]].
 
Erbyn [[1911]] roedd 86,000 o bobl yn gweithio ar y [[rheilffyrdd]] ac yn nociau mawr y De. Ddechrau'r ugeinfed ganrif disodlwyd [[haearn]] gan [[dur|ddur]] fel y prif fetel a oedd yn cael ei allforio o'r wlad. Yr oedd 3,700 yn gweithio mewn gwaith [[copr]] yn [[1911]] ac 21,000 mewn gwaith [[tun]]. Roeddent yn cynhyrchu 848,000 tunnell o blât tin mewn blwyddyn. Cynhyrchwyd 56.8 miliwn tunnell o [[glo|lo]] yn [[1913]]. Roedd Cymru yn allforio traean o holl allforion glo'r byd gan gyflogi 250,000 o ddynion ym meysydd glo'r de a'r gogledd-ddwyrain. Ond cafwyd dirywiad difrifol mewn nifer o'r diwydiannau traddodiadol ar ôl yr [[Ail Ryfel Byd]], yn arbennig yn y meysydd glo. Ym 1913 cyflogid yn y gwaith glo 232,000 o ddynion, ond erbyn [[1960]] dim ond 106,000 a gyflogid a syrthiasai'r nifer i 30,000 yn unig erbyn [[1979]]. Nid oedd ond un pwll glo ar ôl yng Nghymru erbyn y 1990au. Roedd dirywiad tebyg yn y [[diwydiant dur]] ac economi Cymru yn gyffredinol. Roedd Cymru fel nifer o wledydd eraill y gorllewin yn dod yn fwyfwy ddibynnol ar y sector gwasanaeth. Un o ganlyniadau'r dirywiad yn y diwydiant glo ac o ganlyniad esgeuluso diogelwch y tipiau glo oedd [[trychineb Aberfan]], pan lyncwyd ysgol gyfan gan lithriad gwastraff glo gan ladd 144 o blant ac athrawon.