La Goulette: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| gwlad={{banergwlad|Tiwnisia}}}}
[[Delwedd:La Goulette 001.JPG|bawd|Glan môr La Goulette yn y gaeaf]]
 
Tref arfordirol ar [[Gwlff Tiwnis]] a phorthladd dinas [[Tiwnis]], prifddinas [[Tiwnisia]], yw '''La Goulette''' ([[Arabeg]]: حلق الوادي‎, Halq al-Ouadi). Mae'n gorwedd tua 10 km o ganol Tiwnis. Mae morglawdd dros [[Llyn Tiwnis]] yn ei chysylltu â'r brifddinas. Mae ganddi dair orsaf - ''La Goulette Vieille'', ''Goulette Neuve'' a ''Goulette Casino'' - ar [[Rheilffordd y TGM|reilffordd ysgafn y TGM]]. Daw'r enw 'La Goulette' ('y gwddw') o'r sianel cyfyng ar ymyl y dref sy'n cysylltu Llyn Tiwnis a Gwlff Tiwnis. Mae sianel arall yn gwahanu La Goulette a Khéredine i'r gogledd.