Mwynfeydd Copr y Gogarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gareth llanrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Gareth llanrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 14:
[[Delwedd:Oes efydd.jpg|bawd|500px|Dangos trefn y gwahanol gyfnodau yn cynnwys yr Oes Efydd]]
 
Beth amser ar ôl hyn, mwyaf tebyg rhwng 250 a 200 miliwn o flynyddoedd ôl, rhoddwyd pwysau enfawr ar y garreg galch gan symudiad y ddaear, ac achoswyd iddi gracio. Digon bach oedd rhai o'r craciau hyn ond buasai eraill ohonynt yn cyrraedd yn ddwfn i gramen y ddaear. O fewn cramen y ddaear ceid pocedi berwedig o hylif poeth, hylifau a nwyon sydd o dan bwysau anferthol. Byddai'r rhain yn ymwthio tua'r wyneb drwy'r craciau, ac with wneud hynny yn toddi rhannau o'r garreg galch o gwmpas y craciau gan frurfio tyllau gwag. Llenwid y gwagleoedd â mineralau, sef mineralau copr yn yr achos hwn, gan oeri a chaledu i frurfio gwythiennau o fwynau [[copr]].
Yn ystod y cyfnod hwn buasai'r garreg galch o gwmpas y gwythiennau wedi adweithio'n gemegol. Byddai peth o'r calch yn y garreg wedi'i gyfnewid â [[magnesiwm]], a ffurfio carreg galch fagnesiwm neu Dolomit.
 
Byddai'r Dolomit hwn ychydig yn feddalach na'r garreg galch ac wrth gyfuno hynny â'r ffaith fod y mwynau copr yn weladwy ar yr wyneb, roedd yr amodau'n ffafriol ar gyfer y cloddwyr cynnar.
Llinell 49:
===Llwybr yr Ymwelwyr===
Agorwyd un rhan o'r gloddfa i'r cyhoedd gan roi cyfle i bobl weld drostynt eu hunain gyfran fechan o'r anferth rwydwaith danddaearol sydd yma. Dilynir pedair o'r 35 o wythiennau mwynol, llawer ohonynt yn dyddio'n ôl 3,400 - 3,500 o flynyddoedd.
Er bod y twneli y cerddwch drwyddynt yn ddigon uchel i allu sefyll ynddynt mae rhai eraill gerllaw yn fychan iawn, rhai'n ddim ond 9 modfedd o lêd, ac 11 modfedd o uchder. Credir mai plant mor ifanc a 5 neu ''6'' rnlwyddmlwydd oed a'u cloddiodd.
Cyrhaedda'r twneli bwynt lle y gellwch weld [[ceudwll]] anferthol o'r Oes Efydd.
 
===Ceudwll vr Oes Efydd===
Llinell 69:
===Cael cyflenwad digonol o ddŵr===
[[Delwedd:Gogarth diweddaraf 2.jpg|bawd|chwith|400px|Map yn dangos lleoliadau Ffynhonnau'r Gogarth ac atyniadau]]
Roedd cael cyflenwad digonol o ddŵr yn bwysig iawn i olchi'r gopr ar y Gogarth. Mae nifer o ffynhonnau yno ac mae'r map yn dangos lleoliad tair ar ddeg ohonynt. Hyd y gwyddys, roedd [[Ffynnon Galchog]] yn bwysig iawn ar gyfer y gwaith ac mae olion gerllaw yn profi hynny. Dywed rhai bod llongau yn gallu hwylio at safle'r capel bryd hynny. Hefyd, [[Ffynnon y Gogarth]], [[Ffynnon yr Odyn]] a [[Ffynnon Ty'n Pwll]], ble mae [[Eglwys Seilo]] heddiw. Hefyd, gallwch weld hanes yr holl ffynhonnau [[Ffynhonnau'r Gogarth|yma]]. Mae'r map hefyd yndangos lleoliad y Mwynfeydd Copr ac atyniadau eraill i ymwelwyr.
{{clirio}}
<gallery>