Robert Southey: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 5:
| dateformat = dmy
}}
[[Bardd]] o [[Saeson|Sais]] oedd '''Robert Southey''' ([[12 Awst]] [[1774]], [[Bryste]] – [[21 Mawrth]] [[1843]], [[Llundain]]), yn perthyn i'r ysgol [[Rhamantiaeth]] Seisnig a gyfrifir yn un o "[[Beirdd y Llynnoedd|Feirdd y Llynnoedd]]" gyda [[William Wordsworth]], [[Samuel Taylor Coleridge]] ac eraill. Yn ogystal â bod yn fardd dylanwadol yn ei gyfnod, roedd yn llythyrwr, yn ysgolhaig llên, hanesydd a bywgraffydd a luniodd fywgraffiadau am [[John Bunyan]], [[John Wesley]], [[William Cowper]], [[Oliver Cromwell]], [[Horatio Nelson]] ac eraill. Roedd yn medru [[Portiwgaleg]] a [[Sbaeneg]] hefyd; cyfieithodd sawl gwaith o'r ieithoedd hynny i'r Saesneg ac ysgrifennodd gyfrolau ar [[hanes Brasil]] a hanes [[Rhyfel Crimea]]. Fel awdur [[llenyddiaeth plant]] fe'i cofir am ei fersiwn o ''Hanes y Tair Arth'' (rhan o chwedl [[Goldilocks]]).
 
Roedd yn ffigwr amlwg ym mywyd diwylliannol [[Llundain]] ar droad y 18g. Daeth yn gyfaill i [[Iolo Morganwg]] a derbyniodd lawer o syniadau rhamantus y llenor a ffugiwr hwnnw am y [[Derwydd]]on. Roedd yn adnabod Cymry eraill yn y ddinas hefyd, a chafodd ei ysbrydoli i lunio'r gerdd ramantaidd ''Madoc'' am hanes [[Madog ab Owain Gwynedd]].