Mwynfeydd Copr y Gogarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Tagiau: Golygiad drwy declyn symudol Golygiad ar declun symudol
Llinell 81:
Metel gweddol feddal yw copr ar ei ben ei hun. Bu'n ddefnyddiol ar gyfer addurno ond ni allai fod o fudd fel offeryn neu arf.
Ond os cymysgir tua 90% o gopr gyda 10% o dun, ffurfir cyfuniad o'r enw Efydd. Roedd y metel caletach hwn mor bwysig i'r hen bobl nes rhoi ei enw'n deitl ar gyfnod o ddwy fil o flynyddoedd, yr Oes Efydd.
Y lie agosaf i'r Gogarth y gallesid bod wedi cael y tun yw [[Cernyw ]]-taith, ôl a blaen, o 500 milltir.
Gwneid gwahanol bethau allan o Efydd. Defnyddid ef yn arferol i addurno ond ei ddefnydd pennaf oedd ar gyfer gwneud offer ac arfau. Bwyelli yw'r nwyddau mwyaf cyffredin a ddarganfuwyd o'r cyfnod hwnnw. Oherwydd yr anawsterau o fwyngloddio copr, a'r anawsterau o gael tun, buasai Efydd yn nwydd gwerthfawr tu hwnt, ac mae'n annhebyg y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn berchen arno. Mae'n debyg yr edrychid ar rywbeth a wnaed o Efydd fel arwydd o statws uchel person.