Y we fyd-eang: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Ham II (sgwrs | cyfraniadau)
→‎Y We yn Gymraeg: cywiro gwallau using AWB
Llinell 11:
Y tro cyntaf y soniwyd yn Gymraeg am y we oedd ar [[23 Gorffennaf]] [[1969]] gan y gwyddonydd [[Owain Owain]]: 'Yn syml, mae'r gyfundefn hwn o gyfrifyddion (neu gyfrifiaduron) yn ei gwneud hi'n bosib i gofnodi y cyfan o wybodaeth yr hil ddynol drwy'r oesau mewn un lle, mewn modd sy'n galluogi unrhyw unigolyn - o'i gartref ei hun er enghraifft - archebu a derbyn unrhyw ran o'r wybodaeth honno.... Rydych am weld cerflun mwyaf o geffyl sydd mewn bod? Yna, o'ch cadair freichiau, a chyn i'r bys olaf adael y botwm olaf, fe fydd llun y ceffyl ar y llen deledu yn eich ystafell.' Neu gynllun pensaerniol [[Basilica Sant Pedr|Eglwys S. Pedr]] yn Rhufain? Pwyswch fotymau eraill a dyna'r cynllun pensaerniol yn dilyn y ceffyl mewn llai na chwinciad!'<ref>[http://www.owainowain.net/ygwyddonydd/nodiongwyddonol/nodiongwyddonol.htm Gwefan Owain Owain]</ref>
 
Y wefan Gymraeg gyntaf oedd [[Curiad]] a lansiwyd gan [[Dafydd Tomos]] ar y rhestr ebyst [[WELSH-L]] ar [[13 Ebrill]] [[1995]]. Roedd y wefan yn cynnwys gwybodaeth am gigs, bandiau, adolygiadau a siartiau Cymraeg. Roedd yn gwbl ddwyieithog i ddechrau cyn ail-lansio yn uniaith Gymraeg yn 2005. Mae rhan helaeth o'r deunydd ar gael hyd heddiw [http://web.archive.org/web/19980120101447/http://www.fydd.org/curiad/indexc.html wedi'i archifo].<ref>[https://listserv.heanet.ie/cgi-bin/wa?A2=ind9504&L=WELSH-L&P=R3912 listserv.heanet.ie;] adalwyd 2 Mai 2018.</ref><ref>[http://www.tiki-toki.com/timeline/entry/84932/Hanes-y-We-Gymraeg/#vars!date=1993-04-10_20:09:24! tiki-toki.com;] adalwyd 2 Mai 2018.</ref>
 
Rhoddwyd y gyfrol Gymraeg gyntaf ar y we ar [[1 Rhagfyr]] [[1996]], sef cyfrol o farddoniaeth gan [[Robin Llwyd ab Owain]]: ''Rebel ar y we''.<ref>[http://www.barddoniaeth.com Rhedeg ar Wydr]</ref>