Llwynog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Manion
→‎Llwynogod Gwlad a Thref: cywiro gwallau using AWB
Llinell 52:
: "Yn ôl yn 2010 bu cryn dipyn o son am lwynog a ymosododd ar ddau blentyn bach yn Llundain. Aeth yn ddadl eitha poeth rhwng y rhai oedd am ddifa pob llwynog trefol rhag ofn i’r un peth ddigwydd eto, a’r rhai oedd yn credu na ddylsid gor-ymateb. Mae’n anarferol iawn i lwynog ymosod ar blentyn, ond ddim yn unigryw o bell ffordd.
: Mi ymosodwyd ar fabi 3 mis oed oedd yn cysgu ar soffa mewn tŷ yn Dartford, de Llundain (2002) ac ymosodiad arall yn Croydon yn 1996 – ar fabi 5 mis oed. Yn yr achos yn Dartford, dod i mewn o’r ardd wnaeth y llwynog hwnnw hefyd - anwybyddu’r fam oedd yn cysgu ar gadair arall gerllaw, a cheisio llusgo’r babi allan o’r tŷ. Pan glywodd y tad, oedd yn y gegin, sgrechiadau’r babi a’r fam a rhedeg drwodd – yn fan’o oedd y llwynog yn sefyll ac yn edrych arno fo, fel petae o’n d’eud: ‘Be ’di’r holl ffys!? ’Mond dwad i nol y pryd têc awê ’ma ydw i’!
<br />
: Dydych chi byth yn clywed am lwynogod gwledig yn ymosod ar blant. Ond, wrth gwrs, mae rheiny wedi hen ddysgu bod pobl cefn gwlad yn betha peryg ofnadwy ac i’w hosgoi ar bob cyfri. Ond mewn trefi, lle mae unrhyw fywyd gwyllt yn rhywbeth i’w groesawu, mae’rhen gadno yn cael dipyn mwy o barch a chroeso. Mae rhai pobl wrth eu boddau yn eu gwylio nhw, a’u bwydo nhw – ac yn falch iawn o gael teulu o lwynogod yn ymgartrefu dan y cwt mewn gardd swbwrbaidd. Be mae hynny’n ei wneud ydi dysgu’r llwynogod trefol i golli eu hofn o bobol a dwad yn ryw hanner dof.
: A dyna lle mae’r broblem - oherwydd dydi hi ddim yn bosib dofi llwynog – ddim fel ci. Mae pob ci yn tarddu o’r blaidd, sy’n greadur cymdeithasol a chydweithredol, am fod helamewn pac yn angenrheidiol i ddal a lladd creaduriaid mawr. Roedd natur gymdeithasol y blaidd yn ei gwneud yn bosib i ddynion cynnar, dros 50,000 o flynyddoedd yn ôl i 'imprintio’ ar flaidd ei fod o’n rhan or pac dynol ac mai y dyn oedd yr arweinydd bob tro. Ond nid dyna natur teulu’r llwynog, sy’n hela adar, llygod, chwilod a phryfid genwair.
<br />
: Mae nhw’n byw mewn grwpiau teuluol llai ac, fel arfer, yn hela’n unigol. Dydyn nhw ddim mor hawdd i’w himprintio’n felly – dyna pam na ddofwyd yr un o’r teulu yma gan ddyn erioed.
: Rhaid derbyn felly mai peth peryg iawn ydi gwneud ffrind o’r creadur bach coch gwyllt hwn yng ngwaelod yr ardd. Oherwydd, be ddigwyddith ydi y bydd o’n colli ei ofn o bobol. A be wedyn pan glywith o sŵn neu ogla prae bychan blasus mewn tŷ yn y stryd nesa? Mae o yn mynd i siawnsio ei lwc, yn naturiol – fel mae yn ei natur i wneud!