Mudiad Adfer: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Rob Rhys (sgwrs | cyfraniadau)
BDim crynodeb golygu
→‎top: cywiro gwallau using AWB
Llinell 2:
Roedd '''Mudiad Adfer''' yn grŵp protest a darddodd allan o [[Cymdeithas yr Iaith|Gymdeithas yr Iaith]] yn yr [[1970au]]. Tynnodd y mudiad ei syniadau o amrywiol ffynonellau, yn eu plith erthyglau gan [[Owain Owain]] <ref>[http://www.owainowain.net/ygwleidydd/YFroGymraeg/yfroGymraegEiHun.htm Tafod y Ddraig Rhif 4; Ionawr 1964]</ref> ac [[Emyr Llewelyn]]. Roedd y syniadau a ddatblygwyd gan yr athronydd J. R. Jones yn y 1960au ynghylch 'bychanfyd', 'troedle' i'r iaith, a 'cydymdreiddiad iaith a thir' yn ddylanwad amlwg hefyd, a dyfynnai'r athronydd yn aml o waith y bardd Waldo Williams. Credai'r mudiad mewn gwarchod "[[Y Fro Gymraeg]]" - ardal gyda'r mwyafrif o'i thrigolion yn siarad Cymraeg. gyda'r Gymraeg yn ddelfrydol yn unig iaith bywyd cyhoeddus, e.e, ar arwyddion ffyrdd. Trwy greu peuoedd uniaith yn unig y gellid diogelu'r Gymraeg fel iaith cymuned. Cyhoeddai'r mudiad gylchgrawn, ''Yr Adferwr'', ac ymgyrchwyd dros symud cyrff cyhoeddus yn ymwneud â'r diwylliant Cymraeg o Gaerdydd i'r Fro Gymraeg.
 
Daeth Mudiad Adfer I ben yn ymarferol tua diwedd yr [[1980au]], ond mae ei syniadau gwaelodol wedi eu mabwysiadu gan gyrff megis [[Cymuned (mudiad)|Cymuned]] a [[Cylch yr Iaith|Chylch yr Iaith]]. Gwerthai Cwmni Adfer fuddsoddiadau yn y cwmni a phrynwyd ychydig o dai, eu hadfer a'u rhentu i bobl leol, ond cyfyngedig fu llwyddiant y mentrau hyn.
 
Ysgrifennodd Owain Owain mewn llythyr yn 'Y Faner' (Yr Iaith - Arf Gwleidyddol):'
Llinell 11:
 
Canodd y grŵp gwerin '[[Ac Eraill]]' a [[Tecwyn Ifan]] yntau lawer o ganeuon a adleisiai syniadaeth y mudiad e.e. 'Y Dref Wen'. Lluniodd Alan Llwyd awdl 'Adfer' sy'n adlewyrchu syniadaeth y cyfnod, ac fe'i cyhoeddwyd yn ei gyfrol ''Gwyfyn y Gaeaf''<nowiki/>' yn 1975. gyda'r llinell glo 'Yfory iaith: Adfer yw'.
 
<br />
 
==Llyfryddiaeth==