Amwythig: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Xqbot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: nl:Shrewsbury (Engeland)
testun Eisingrug
Llinell 1:
[[Delwedd:Shrewsbury - Shropshire dot.png|bawd|200px|Lleoliad yr Amwythig]]
[[Delwedd:Old_Market_Hall.jpg|200px|bawd|Hen Neuadd y Dref yn yr Amwythig]]
Tref yng ngorllewin canolbarth [[Lloegr]] yw 'r''Amwythig''' (hefyd '''Yr Amwythig''' ar lafar)<ref>David A. Thorne, ''Gramadeg Cymraeg'', [[Gwasg Gomer]], 1996, tud. 112</ref> (Saesneg ''Shrewsbury''). Yr Amwythig yw canolfan weinyddol [[Swydd Amwythig]] lle ceir swyddfeydd y cyngor sir. Mae [[Afon Hafren]] yn llifo trwy'r dref.
 
==Hanes==
Awgrymir Yr Amwythig fel safle [[Pengwern]], llys brenhinoedd [[teyrnas Powys]] cyn i'r deyrnas honno golli ei thir yn y dwyrain i [[Mercia]], ond does dim sicrwydd am hynny.
 
Codwyd castell ar y safle gan y [[Normaniaid]] yn [[1070]].
 
Ymwelodd [[Gerallt Gymro]] â'rag Amwythig yn ystod ei [[Hanes y Daith Trwy Gymru|daith trwy Gymru]] yn [[1188]].
 
Cipiwyd Yr Amwythig gan [[Llywelyn Fawr]] yn [[1215]], ac eto yn [[1234]].
 
Ar 28 Mehefin [[1283]] galwodd [[Edward I o Loegr]] ei [[senedd]] i gyfarfod yn yr Amwythig i farnu [[Dafydd ap Gruffudd]], [[Tywysog Cymru]] a brawd [[Llywelyn Ein Llyw Olaf]]. Ar 30 Medi dedfrydwyd Dafydd i farwolaeth am deyrnfradwriaeth. Cafodd ei ddienyddio yn yr Amwythig ar 3 Hydref trwy ei grogi, ei ddiberfeddu a'i chwarteru.
 
Mae'r dref yn enwog am ei [[ysgol ramadeg]] i fechgyn a agorodd yn [[1552]]; mae'r gwyddonydd [[Charles Darwin]] a'r bardd Syr [[Philip Sydney]] yn gyn-ddisgyblion.
 
==Cysylltiadau Cymreig==
===Y wasg Gymraeg yn yr Amwythig===
Symudodd [[Thomas Jones (almanaciwr)|Thomas Jones]] yr almanaciwr ei wasg o [[Llundain|Lundain]] i'r Amwythig yn [[1695]] i gyhoeddi llyfrau [[Cymraeg]]. Am tua ddeng mlynedd a thrigain ar ôl hynny yrAmwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan [[1718]] y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).
Amwythig oedd canolfan y fasnach lyfrau Cymraeg (dim tan [[1718]] y cafwyd y wasg drwyddedig gyntaf yng Nghymru).
 
Ar ddiwedd y [[18fed ganrif|ddeunawfed ganrif]] roedd gan [[Stafford Prys]] wasg yn y dref. Ei gyhoeddiad mwyaf uchelgeisiol efallai oedd y [[Blodeugerddi Cymraeg|flodeugerdd Gymraeg]] ''[[Gorchestion Beirdd Cymru]]'' ([[1773]]).
 
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau|3}}
==Dolenni allanol==
*[http://www.darwincountry.org/ "Gwlad Darwin" - Gwasanaeth Amgueddfeydd yr Amwythig]
*[http://www.shrewsbury.gov.uk Cyngor Bwrdeistref yr Amwythig & Atcham]
*[http://www.shropshiretourism.info/shrewsbury Gwybodaeth i ymwelwyr]