Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gwawdodyn hir"

Ychwanegwyd 686 beit ,  12 o flynyddoedd yn ôl
enghraifft arall
No edit summary
(enghraifft arall)
{{24 mesur}}
Mae'r '''gwawdodyn hir''' yn un o'r [[pedwar mesur ar hugain]] ac, felly, yn fesur [[cynghanedcynghanedd (barddoniaeth)|caeth]] sy'n cynnwys cynghanedd. Mae'n perthyn yn agos i'r [[gwawdodyn byr]], ond bod dwy linell ychwanegol o [[cyhydedd nawban|gyhydedd nawban]] o flaen y [[toddaid]] ydyw. Mae diwedd pob llinell yn [[odl]]i, a cheir odl gyrch rhwng y gair cyrch a gorffwysfa'r llinell glo. Ni chaniateir defnyddio'r [[cynghanedd lusg|gynghanedd lusg]] yn y llinell glo.
 
Dyma enghraifft allan o "[[Cwm Carnedd]]" gan [[Gwilym R Tilsley]]:
 
:''Do, bu yno brysurdeb unwaith,''
:''A sŵn o gaban a sain gobaith;''
:''Fel clychau'n tincian clyweyd ganwaith''
:''Gleb pedolau'r hogiau foregwaith,''
:''A'u gweld yn eu dillad gwaith - trwy'r oriau''
:''Yn rhwygo o greigiau eu goreugwaith.''
 
Dyma'r enghraifft a ganodd [[Dafydd Nanmor]] yn ei [[awdl enghreifftiol]] i Ddafydd ap Tomas ap Dafydd:
 
:''Anos yw d'aros, a'th wayw diri'''og'''''
:''Wrth gastell no'r wiber asgell'''og''';''
:''A'th ofn ar feilch, a'th faner fylchi'''og'''''
:''Yn dilyn gwaedwyr hyd Lan Gad'''og''',''
:''O'r bron, uwch afon, a chyf'''og''' - bob dr'''i'''''
:''Y gwŷr, a'u torr'''i''' yn gwarter'''og'''.''
 
Mae'n berthynas agos i'r [[hir-a-thoddaid]], a thueddwyd yn ddiweddar i ganu mwy ar fesur yr hir-a-thoddaid na'r gwawdodyn hir.
 
==Gweler hefyd==
425

golygiad