Langue d'oïl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B Symudodd Deb y dudalen Langues d'oïl i Langue d'oïl
+Terminoleg
Llinell 17:
 
Yn hanesyddol, defyddir y termau '''''langue d'oïl, langues d'oïl''''', ac '''''oïl''''' (ynganiad: [ɔ.il], [u.il], [wi], [ɔj]1), ar gyfer yr iaith Romáwns a ddatblygodd yn rhan ogleddol [[Gâl]], ac yna rhan ogleddol [[Ffrainc]], de [[Gwlad Belg]] ac ar yr [[Ynysoedd y Sianel]] yn yr [[oesoedd canol]]. Mae felly'n gysyniad tebyg, ond nid union yr un peth, â'r [[Hen Ffrangeg]], oedd yn cwmpasu'r gwahanol dafodieithoedd ''oïl''. Gydag ymddangosiad un ffurf ieithyddol wedi'i safoni ar ddechrau'r cyfnod modern (sef y [[Ffrangeg]]), daeth y term lluosog yn amherthnasol wrth sôn am [[Ffrangeg ganol]], a gwahaniaethwyd rhang y Ffrangeg ar y naill law a'r ieithoedd ''oïl'' eraill ar y llall. Ystyrir y tafodieithoedd, neu ieithoedd, ''oïl'', yn grŵp o fewn yr [[ieithoedd Gallo-Romáwns]]. Mae'r grŵp gogleddol hwn yn cynnwys swbstrad [[Ieithoedd Celtaidd|celtaidd]] sylweddol, yn ogystal â dylanwad gan yr [[ieithoedd Germanaidd]] sy'n un o'r gwahaniaethoedd rhwng y ''langues d'oïl'' a'r [[Ocsitaneg]].
 
==Terminoleg==
Mae'n ymddangos y defnyddir y term ''langue d’oïl'' ers diwedd yr [[18fed ganrif]]. Mae'n deillio o'r ffordd o ddweud "ie" mewn gwahanol ieithoedd ar y pryd (o'r gair ''oïl'' daeth y [[Ffrangeg]] gyfoes ''oui''). Ceir y defnydd yma yng ngwaith [[Dante]],<ref>Yn''Vita nuova'', oddeutu 1293, ar gyfer "oc" a "si"; yn ''De vulgari eloquentia'', oddeutu 1305, yn fwy cyflawn.</ref> oedd yn gwahaniaethu rhwng dau grŵp o ieithoedd ac yn adnabod undod o fewn y naill grŵp a'r llall:
 
*yr ieithoedd ble dywedir "jo" (yr [[Ieithoedd Germanaidd]])
*y lleill (yr [[Ieithoedd Romáwns]], a oedd yn ôl Dante yn cynnwys tair iaith:
**ble dywedir ''oïl'' (yr [[Hen Ffrangeg)
**ble dywedir ''oc'' ([[Ocsitaneg]], ond gan gynnwys y [[Catalaneg|Gatalaneg]]
**ble dywedir ''sì'' ([[Ieithoedd yr Eidal]])
 
Defnyddir y term lluosog ''langues d'oïl'' gan Gymdeithas Cynnal a Hyrwyddo'r Langues d'Oïl ers ei chreu ym [[1982]].<ref>[https://books.google.fr/books?id=abit8Yd6J-cC&pg=PA155#v=onepage&q&f=false Abalain 2007, tud. 155].</ref>.
 
==Cyfeiriadau==
{{Cyfeiriadau}}
 
{{Ieithoedd Ffrainc}}