Llyfrgell Genedlaethol Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle}}
{{Infobox library
 
| library_name = ''Llyfrgell Genedlaethol Cymru''
| name_en =
| library_logo =
| image = National Library of Wales.jpg
| caption = Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth
| country =
| type = Llyfrgell Genedlaethol
| scope =
| established = 1907
| ref_legal_mandate = Fe'i sefydlwyd drwy 'Siartr Brenhinol' ar 19 Mawrth 1907. Cafwyd siapteri ychwanegol yn dilyn hyn: 1911, 1978 a 2006
| location = Aberystwyth
| coordinates = {{coord|52|24|52|N|4|4|8|W|display=inline,title}}
| branch_of =
| num_branches =
| items_collected = Gweithiau wedi'u hargraffu, Mapiau, Archifau, Llawysgrifau, Deunydd Clyweled, Ffotograffau, Paentiadau
| collection_size = 5 miliwn o lyfrau; un miliwn o fapiau; 800,000 o ffotograffau; 50,000 o weithiau Celf
| criteria = Pryniant, cymynroddion a chyfraniadau cyfreithiol, gorfodol
| legal_deposit = Ydy
| req_to_access = Mae'r llyfrgell yn agored i bawb. Mae'r mynediad i ystafelloedd darllen i bersonau dros 16 oed yn unig (oni bai y rhoddir caniatâd o flaen llaw).
| annual_circulation =
| pop_served =
| members =
| budget =
| director = Pedr ap Llwyd
| num_employees = oddeutu 350 llawn amser
| website ={{url|http://www.llgc.org.uk}}
| phone_num = +44 1970 632800
}}
'''Llyfrgell Genedlaethol Cymru''', [[Aberystwyth]], yw llyfrgell adnau cyfreithiol cenedlaethol Cymru ac mae'n cael ei chynnal dan nawdd Llywodraeth Cymru. Hon yw'r Llyfrgell fwyaf yng Nghymru, gyda dros 6.5 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, a'r casgliadau mwyaf o archifau, portreadau, mapiau a delweddau ffotograffig yng Nghymru.
Mae'r Llyfrgell hefyd yn gartref i Archif Sgrin a Sain Genedlaethol Cymru, Archif Wleidyddol Cymru, Archif Lenyddol Cymru, a'r casgliad mwyaf cynhwysfawr o bortreadau a phrintiau topograffyddol yng Nghymru. Fel y brif lyfrgell ac archif ymchwil yng Nghymru ac fel un o lyfrgelloedd ymchwil mwyaf y Deyrnas Gyfunol, mae'r Llyfrgell Genedlaethol yn aelod o Lyfrgelloedd Ymchwil y DG (RLUK) a Chonsortiwm Llyfrgelloedd Ymchwil Ewrop (CERL).
Llinell 36 ⟶ 9:
 
==Hanes==
 
Sefydlwyd y Llyfrgell yn [[1907]] wedi ymgyrch hir a phoblogaidd a gychwynwyd yn [[Eisteddfod Genedlaethol Yr Wyddgrug 1873]]. Yn 1905, gwnaeth Llywodraeth y DG addewid i sefydlu Llyfrgell ac Amgueddfa Genedlaethol i Gymru, a sefydlwyd pwyllgor gan y Cyfrin-Gyngor i benderfynu ar leoliad y ddau sefydliad. Cefnogodd David Lloyd George, a ddaeth wedi hynny yn Brif Weinidog, yr ymdrech i i sefydlu'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, a dewiswyd y dref honno fel lleoliad iddi dros Gaerdydd, yn rhannol oherwydd bod eisoes yno gasgliad ar ei chyfer yn y Coleg. Roedd Syr John Williams, meddyg a chasglwr llyfrau, hefyd wedi rhoi geybod y byddai yn cyflwyno ei gasgliad (yn arbennig, casgliad llawysgrifau Peniarth) i'r llyfrgell pe byddai wedi ei lleoli yn Aberystwyth. Yn ogystal â hynny, cyfrannodd £20,000 tuag at y gwaith o adeiladu a sefydlu'r Llyfrgell. Dewiswyd Caerdydd yn lleoliad i'r Amgueddfa Genedlaethol. Codwyd arian tuag y Llyfrgell a'r Amgueddfa Genedlaethol trwy danysgrifiadau y gweithwyr, a oedd yn anarferol yn achos sefydliadau o'r fath. Yn ôl amcangyfrif y Llyfrgellydd Cenedlaethol cynaf, John Ballinger, roedd bron i 110,000 o gyfranwyr. Sefydlwyd y Llyfrgell trwy Siartr Frenhinol ar 19 Mawrth 1907. Roedd y Siartr yn nodi pe byddai'r Llyfrgell Genedlaethol yn cael ei symud o Aberystwyth, yna byddai'r llawysgrifau a roddwyd iddi gan Syr John Williams yn cael eu symud i Goleg y Brifysgol. Cyflwynwyd Siartr Frenhinol newydd yn 2006.
 
Llinell 72 ⟶ 44:
 
==Llawysgrifau==
[[Delwedd:Hengwrt Chaucer (f.2.r) title page.jpg|canol|bawd|Llawysgrif Hengwrt Chaucer o Gasgliad Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]
 
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cadw nifer o lawysgrifau unigryw a phwysig, yn cynnwys Llyfr Du Caerfyrddin (y llawysgrif gynharaf sy'n gyfan gwbl yn y Gymraeg), Llyfr Taliesin, Llawysgrif Hendregadredd, a gwaith Geoffrey Chaucer. Mae tua tri chant o lawysgrifau canoloesol yng nghasgliadau'r Llyfrgell: tua chant ohonynt yn y Gymraeg. Mae'r casgliad llawysgrifau yn gyfuniad o gasgliadau a ddaeth i'r Llyfrgell yn ei dyddiau cynnar, gan gynnwys llawysgrifau Hengwrt-Peniarth, Mostyn, Llanstephan, Panton, Cwrtmawr, Wrecsam ac Aberdar. Catalogwyd y llawysgrifau Cymraeg yn y casgliadau hyn gan Dr J. Gwenogvryn Evans yn ei adroddiadau ar lawysgrifau yn yr iaith Gymraeg i'r Comisiwn Llawysgrifau Hanesyddol.
[[Delwedd:Hengwrt Chaucer (f.2.r) title page.jpg|canol|bawd|Llawysgrif Hengwrt Chaucer o Gasgliad Peniarth, Llyfrgell Genedlaethol Cymru]]
 
{{-}}
==Mynediad Agored a chydweithio â Wikimedia==
Yn Ebrill 2012, gwnaed penderfyniad polisi blaenllaw iawn: nad oedd y Llyfrgell yn hawlio perchnogaeth yr hawlfraint mewn atgynhyrchiadau digidol. Golygai hyn fod yr hawliau sydd ynghlwm wrth gweithiau'n adlewyrchu statws hawlfraint y gwaith gwreiddiol (h.y. fod y gweithiau gwreiddiol sydd yn y parth cyhoeddus (e.e. lluniau ar Flickr) i barhau yn y parth cyhoeddus yn eu ffurf digidol. Mae'r llyfrgell wedi cymhwyso'r polisi hwn i brosiectau ers hynny gan gynnwys '[[DIGIDO]]', [[Prosiect Papurau Newydd Cymru Arlein]]<ref name="Papurau Newydd Cymru Arlein">[http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru]</ref> a 'Cymru 1914'. Mae'r Llyfrgell hefyd yn parhau i ddiweddaru gwybodaeth am hawliau prosiectau a gwbwlhawyd cyn 2012, sy'n waith aruthrol, oherwydd y cyfoeth o weithiau sydd yn y Llyfrgell.
[[Delwedd:Jason Evans.jpg|bawd|Jason Evans, Wicipediwr Preswyl y Llyfrgell Gebedlaethol]]
 
Yn Ebrill 2012, gwnaed penderfyniad polisi blaenllaw iawn: nad oedd y Llyfrgell yn hawlio perchnogaeth yr hawlfraint mewn atgynhyrchiadau digidol. Golygai hyn fod yr hawliau sydd ynghlwm wrth gweithiau'n adlewyrchu statws hawlfraint y gwaith gwreiddiol (h.y. fod y gweithiau gwreiddiol sydd yn y parth cyhoeddus (e.e. lluniau ar Flickr) i barhau yn y parth cyhoeddus yn eu ffurf digidol. Mae'r llyfrgell wedi cymhwyso'r polisi hwn i brosiectau ers hynny gan gynnwys '[[DIGIDO]]', [[Prosiect Papurau Newydd Cymru Arlein]]<ref name="Papurau Newydd Cymru Arlein">[http://papuraunewydd.llyfrgell.cymru]</ref> a 'Cymru 1914'. Mae'r Llyfrgell hefyd yn parhau i ddiweddaru gwybodaeth am hawliau prosiectau a gwbwlhawyd cyn 2012, sy'n waith aruthrol, oherwydd y cyfoeth o weithiau sydd yn y Llyfrgell.
 
Yn Chwefror 2013 [[:commons:Category:Images from the collection of the National Library of Wales|treialwyd 50 o ddelweddau]] o [[Mynwy|Fynwy]], sydd allan o hawlfraint. Y llun cyntaf a uwchlwythwyd oedd: [[:commons:File:The Vale of Tintern, from the Devil's Pulpit.jpg|Abaty Tintern o Bulpud y Diafol]]. Crewyd [[:commons:Template:NLW collection|templad i "ddal" y lluniau]] sy'n cyfieithu'n otomatig i nifer o ieithoedd.