Antalya (talaith): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
OsianLlwyd1 (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|Lleoliad talaith Antalya yn Nhwrci. Lleolir talaith '''Antalya''' yn ne-orlle...'
(Dim gwahaniaeth)

Fersiwn yn ôl 20:14, 31 Awst 2010

Lleolir talaith Antalya yn ne-orllewin Twrci rhwng Mynyddoedd Taurus a Môr y Canoldir. Ei phrifddinas yw dinas Antalya. Mae'n rhan o ranbarth Akdeniz Bölgesi (Rhanbarth Môr y Canoldir). Mae iddi boblogaeth o 1,919,719 (2009).

Lleoliad talaith Antalya yn Nhwrci.

Mae talaith Antalya yn cyfateb i diroedd hynafol Pamphylia i'r dwyrain a Lycia i'r gorllewin. Mae ganddi arfordir o 408 milltir (657km) llawn traethau, porthladdoedd a dinasoedd hynafol, gan gynnwys Safle Treftadaeth y Byd yn Xanthos. Antalya heddiw yw'r dalaith sydd a'r cynydd poblogaeth mwyaf yn Nhwrci, gyda chynydd blynyddol o 4.17% yn ystod y 90au, o gymharu a'r cymedr cenedlaethol o 1.83%. MAe hyn oherwydd cynydd uchel mewn trefoli, sydd yn cael ei achosi gan dwristiaeth a'r sector gwasanaeth ar hyd yr arfordir.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dwrci. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.