Pont: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
ArthurBot (sgwrs | cyfraniadau)
B robot yn newid: war:Latáyan
Dim crynodeb golygu
Llinell 7:
Mae [[dihareb]] enwog yn Gymraeg yn seiliedig ar y chwedl yn y [[Mabinogi]] pan fo'r cawr [[Bendigeidfran]] yn gorwedd ar draws afon yn ystod ei gyrch yn Iwerddon fel bod y Cymry yn gallu teithio dros ei gefn ar draws yr afon. A fo ben, bid bont.
 
Boncyffion cryfion wedi eu gosod ar draws afon oedd y pontydd cyntaf. Gwelir y gair mewn nifer o enwau lleoedd yng Nghymru, megis [[Pontardawe]], [[Pontarddulais]], [[Pontypridd]], [[Pontarfynach]], [[Pen-y-Bont-ar-Ogwr]], [[Pont-y-pŵl]] .
 
Bu’r Rhufeiniaid yn ddiwyd yn adeiladu pontydd gan wneud defnydd helaeth o bontydd cychod a phontydd o bren. Gwnaethant hefyd ddefnyddio’r dechnoleg pensaernïol o adeiladu gyda cherrig ar ffurf bwa, gan adeiladu pontydd cerrig digon cryf i barhau hyd heddiw. Fe geir pontydd bwa o oes y Rhufeiniaid o hyd yn Ffrainc, yr Eidal a Sbaen, e.e. pont Alcántara yn Sbaen. Yn ogystal a chario heolydd defnyddiai’r Rhufeiniaid bontydd i gario dŵr (aquae ductus).