Robert Williams (Trebor Mai): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Llinell 12:
Nid yw'r [[enw barddol]] "Trebor Mai" ond enw y bardd wedi'i sgwennu o'r chwith (sef "I am Robert"). Mae Trebor Mai yn enghraifft ragorol o 'feirdd gwlad' y cyfnod; roedd ei dad yn barddoni a dysgodd Trebor Mai hanfodion y [[Cynghanedd|gynghanedd]] o gyfnod cynnar iawn. Arferai gyfansoddi wrth weithio yn nhai'r gymdogaeth (âi teilwriaid yr oes o dŷ i dŷ) ac yn fuan daeth yn enwog yn y fro am barodrwydd ei awen.
 
Fel pob bardd cymerai ran yn yr [[eisteddfod]]au, mawr a bach. Am gyfnod roedd Caledfryn yn [[athro barddol]] iddo. Y prif ddylanwad llenyddol arno oedd gwaith [[Ieuan Glan Geirionydd]]. Roedd ganddo gylch eang o gyfeillion llengar, yn cynnwys [[Dewi Arfon]] a [[Scorpion]]. Gyda [[Gethin Jones (llenor)|Gethin Jones]] a [[Gwilym Cowlyd]] sefydlodd [[Arwest LlynGlan Geirionydd]]. Enillodd ei awdl "Y Gloch" Gadair [[Taliesin]] yn yr arwest ar lannau'r llyn yn 1875. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth yn ystod ei oes, sef ''Fy Noswyl'' (1861) a ''Geninen'' (1869).
 
Er nad oes llawer o werth parhaol i'r cerddi eisteddfodol a gyfansoddodd mae Trebor Mai yn adnabyddus hyd heddiw am ei englynion ffraeth a synhwyrol. Bardd ei fro a'i gymdeithas ydyw ac mae ei ganu ar ei orau pan mae'n canu i gyfeillion a chymdogion ar achlysuron llawen neu drist, yn disgrifio pethau bach bob dydd neu'n ymgolli yn swyn natur [[Dyffryn Conwy]] ac [[Eryri]].