Mwynfeydd Copr y Gogarth: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Gareth llanrug (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Erthygl newydd using AWB
Llinell 50:
Agorwyd un rhan o'r gloddfa i'r cyhoedd gan roi cyfle i bobl weld drostynt eu hunain gyfran fechan o'r anferth rwydwaith danddaearol sydd yma. Dilynir pedair o'r 35 o wythiennau mwynol, llawer ohonynt yn dyddio'n ôl 3,400 - 3,500 o flynyddoedd.
Er bod y twneli y cerddwch drwyddynt yn ddigon uchel i allu sefyll ynddynt mae rhai eraill gerllaw yn fychan iawn, rhai'n ddim ond 9 modfedd o lêd, ac 11 modfedd o uchder. Credir mai plant mor ifanc a 5 neu ''6'' mlwydd oed a'u cloddiodd.
Cyrhaedda'r twneli bwynt lle y gellwch weld [[ceudwll]] anferthol o'r Oes Efydd.
 
===Ceudwll vr Oes Efydd===
[[Delwedd:ogof.jpeg|bawd|chwith|300x400px|Y Ceudwll o'r Oes Efydd]]
Yn 1987 y darganfuwyd y Ceudwll i gychwyn a chredid ei fod yn perthyn i'r 19 ganrif. Yna ar ôl ei archwilio am 5 mlynedd, gallwyd profi'i fod dros 3,500 o flynyddoedd oed. O ran mesur mae tua 40 troedfedd o uchder, 70 troedfedd o lêd a 45 troedfedd o ddyfnder.
Cafwyd hyd i amryw o esgyrn anifeiliaid yn y Ceudwll, ynghyd â dau asgwrn o bont ysgwydd dynol. Arddangosir yr esgyrn dynol hyn yn ogystal ag asgwrn o geg ddynol, a gafwyd oddi ar wyneb y safle, yn y ganolfan i ymwelwyr.
 
===Cloddio'n Archeolegol===
Llinell 64:
===Offer Cerrig===
[[Delwedd:Morthwylion cerrig.jpg|bawd|dde|250px|Arddangosfa o Gerrig Morthwyl]]
Roedd gan y mwynwyr o'r Oes Efydd amrywiaeth o offer a dulliau ar gael i mwyngloddio a phrosesu'r mwyn. Ers i gloddfeydd archeolegol Mwyngloddiau'r Gogarth ddechrau yn 1987, mae dros 2,500 o gerrig morthwyl wedi cael eu darganfod. Mae'r ffotograff hwn yn dangos detholiad bach o'r rhai sy'n cael eu harddangos ym Mwyngloddiau'r Gogarth. Byddai'r cerrig hyn wedi'u dewis yn ofalus am eu maint, siâp a math y graig. Mae'r tywodfaen mwyaf a ganfuwyd hyd yma yn pwyso 30kg30 kg ac yn debygol o fod wedi ei atal mewn ffrâm bren gan ei fod yn rhy drwm i'w ddefnyddio â llaw.
{{clirio}}
 
Llinell 89:
Caeodd y Gloddfa Gopr olaf ar Ben y Gogarth, Llandudno, sef ‘Yr Hen Waith’ (Old Mine) yn 1881, ond roedd y diwydiant wedi crebachu ymhell cyn hynny. Roedd un o’r prosiectau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2019 yn awyddus i gynnwys copr o’r Gogarth. Drwy garedigrwydd Mwynfeydd Copr y Gogarth ac un o’u cyfarwyddwyr, Edric Roberts, llwyddwyd i gael ciwb 2 centimedr oedd ei angen ar gyfer y prosiect.
Angela Evans o Gaernarfon fu'n gyfrifol am lunio'r goron, gyda Grŵp Cynefin yn noddi, ac fe welir peli bychan o gopr yn y gwaith.
</br /> '''Sut aed ati?'''
Rhostiwyd y malachit i gael gwared o rai amhureddau. Yna, rhostiwyd o sawl tro ar wres uwch er mwyn cael copr purach cyn ei gastio i fowld o glai. Yna, wedi ei gael i siâp, ei lanhau a’i sgleinio. I orffen, paentiwyd â lacr er mwyn iddo gadw’r lliw llachar.
{{clirio}}
Llinell 102:
===Arall===
 
</br />Cromlech [[Llety'r Filiast]] sy'n rhoi tystiolaeth bellach bod pobl yn byw ar y Gogarth yn ystod yr Oes Efydd'.
</br />
Dau lun o'r siop sy'n dangos eu bod yn gwerthu pob math o nwyddau ac anrhegion.
</br />Tri fu'n ymwneud â llunio'r hanes yma. Edric Roberts, un o gyfarwyddwyr y Gloddfa, Tom Parry sy'n arbenigwr ar hanes Y Gogarth, a Gareth Pritchard fu'n gyfrifol am gasglu'r cyfan.
<gallery>
Delwedd:Llety Filiast a Pen y Gwylfryn.jpg|Cromlech Llety'r Filiast ar Ben y Gwylfryn