86,744
golygiad
(lluniau ac ehangu) |
|||
==Hanes==
[[Delwedd:Beef cattle - geograph.org.uk - 243746.jpg|250px|bawd|Gwartheg ar fferm yn Ninmael.]]
[[Delwedd:Dinmael chapel - geograph.org.uk - 243753.jpg|250px|bawd|Capel Dinmael.]]
Mae Dinmael yn ardal yn y canol rhwng [[teyrnas Gwynedd]] a'r [[Berfeddwlad]] i'r gogledd a [[teyrnas Powys|Phowys]] yn y de. Tir mynyddig uchel a rennir gan gymoedd agored ydyw. Yn y de a'r de-ddwyrain mae'n ffinio ag [[Edeirnion]] a [[Penllyn|Phenllyn]], dau [[cantref|gantref]] strategol y newidiai eu meddiant rhwng Gwynedd a Phowys. Yn y gogledd ffiniai â chantrefi [[Rhos]] a [[Dyffryn Clwyd (cantref)|Dyffryn Clwyd]]. Ni fu erioed yn ardal boblog ond roedd rheolaeth arni yn bwysig yn ddiweddarach yn [[Oes y Tywysogion]] oherwydd fod llwybr yn arwain i fyny o [[Glyndyfrdwy|Lyndyfrdwy]] trwy [[Cerrigydrudion|Gerrigydrudion]] i gyfeiriad [[Nant Conwy]] a chalon Gwynedd.
Ar ganol y [[12fed ganrif]] [[Einion ab Ednyfed]], brawd Gwenllïan gwraig [[Rhirid Flaidd]], oedd arglwydd Dinmael (neu'n dal tir sylweddol yno). [[Owain Brogyntyn]] oedd arglwydd Dinmael yn [[1180]].
==Y fro heddiw==
Mae'r rhan fwyaf o diriogaeth Bro Dinmael yn gorwedd yn sir [[Conwy (sir)|Conwy]] heddiw ac mae'n sylweddol lai na'r hen gwmwd. Mae'n fro wledig, amaethyddol, heb lawer o dai. Yr unig ganolfan o unrhyw faint yw pentref bychan [[Y Maerdy, Conwy|Y Maerdy]]. Ceir [[Ysgol Dinmael]] yn Ninmael sy'n cynnig addysg gynradd i blant y fro. Mae rhieni'r plant yn cael y dewis o'i hanfon i [[Ysgol y Berwyn]], [[Y Bala]] ([[Gwynedd]]) neu [[Ysgol Brynhyfryd]], [[Rhuthun]] ([[Sir Ddinbych]]).<ref>[http://www.cynnal.co.uk/einbro/dinmael/page2.html Ysgol Dinmael] ar wefan Bro Dinmael.</ref>
*[[Cantrefi a chymydau Cymru]]
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
==Dolenni allanol==
* [http://www.cynnal.co.uk/einbro/dinmael/ Gwefan Bro Dinmael]
[[Categori:Cymydau Cymru]]
|