Llyn Cerrig Bach: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→‎top: Ynganiad ar wybodlen lle wd using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 8:
 
==Archaeoleg==
Gwnaed y darganfyddiad gan William Owen Roberts pan oedd y tir yn gael ei glirio i adeiladuymestyn y maes awyr i'r [[Awyrlu Brenhinol]] ger [[Y Fali]] yn 1942. Roedd [[mawn]] yn cael eu gasglu er mwyn ei daenu dros y tir tywodlyd, a chafwyd hyd i'r celfi wrth gasglu mawn o Gors yr Ynys ar lan ddeheuol Llyn Cerrig Bach. Y peth cyntaf i'w ddarganfod oedd cadwyn haearn, wedi ei bwriadu ar gyfer caethweision. Nid oedd neb yn sylweddoli fod y gadwyn yn hen, ac fe'i defnyddiwyd i dynnu lorïau o'r mwd gyda thractor. Er ei bod tua 2,000 o flynyddoedd oed, gallodd wneud y gwaith yma heb broblemau.
 
Pan sylweddolwyd oed y gadwyn, chwiliwyd am gelfi eraill, a chafwyd hyd i nifer fawr ohonynt. Roedd y rhan fwyaf yn waith [[haearn]] ond roedd rhai celfi [[efydd]] hefyd. Cafwyd hyd i gyfanswm o 181 o gelfi. Maent yn cynnwys [[cleddyf]]au, pennau [[gwaywffon]], [[tarian]]nau, darnau o gerbydau a harnes ceffylau, cadwyn arall ar gyfer caethion a gwahanol gelfi. Roedd rhai barau haearn, oedd efallai yn cael eu defnyddio fel arian.