Plaid Cymru: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
BDim crynodeb golygu
Llinell 59:
Yn ystod [[yr Ail Ryfel Byd]], awgrymodd ambell wrthwynebwr gysylltiadau rhwng arweinwyr Plaid Cymru a mudiadau [[ffasgaeth|ffasgaidd]] Ewrop. Ysgrifennai'r Parchedig [[Gwilym Davies]] yn ''[[Y Traethodydd]]'' (1942), heb dystiolaeth, bod y blaid am sefydlu cyfundrefn unbleidiol a sefydliadau ffasgaidd, gan gynnwys adain barafilwrol, yng Nghymru.<ref>Richard Wyn Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru: Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth'' (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2013), tt. 7–9.</ref> Mewn erthygl yn ''[[Y Llenor]]'' o'r enw "Mae'r gwylliaid ar y ffordd" (1940), lluniai [[William John Gruffydd|W. J. Gruffydd]] linell rhwng Hitler a'r Pab, a thrwy hynny fe awgrymai cysylltiad os nad cyfystyredd rhwng ffasgaeth a Chatholigiaeth. Gan fod Saunders Lewis, arweinydd deallusol amlyca'r blaid, yn Babydd, roedd y cyhuddiad yn amlwg.<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), tt. 14–17.</ref> Yn ddiweddarach, adleisiai'r un cyhuddiad gan golofnwyr a ddefnyddiai'r ffugenw John Pennant yn y ''[[Western Mail]]'', a'r gwleidyddion [[Ness Edwards]], [[Jim Griffiths]], [[Leo Abse]], a [[Kim Howells]], ac hyd yr 21g gan y ''[[Welsh Mirror]]''.<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), tt. 17–21.</ref> Tynnir sylw yn aml at sylwadau [[gwrth-Semitiaeth|gwrth-Semitaidd]] gan Saunders Lewis, ac edmygedd [[Ambrose Bebb]] am [[Charles Maurras]], arweinydd [[L'Action Française]], fel tystiolaeth honedig o wreiddiau ffasgaidd y blaid.<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), t. 9.</ref>
 
Yn ei lyfr diffiniol ar y pwnc hwn, ''[['Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru': Plaid Cymru a'r Cyhuddiad o Ffasgaeth]]'', ysgrifennai [[Richard Wyn Jones]] bod y dystiolaeth mor dila a'r dadleuon mor simsan fel petai'r cyhuddiad o ffasgaeth yn "ymdrech i alltudio Plaid Cymru o gylch trafodaeth wleidyddol yng Nghymru – i'w hesgymuno o sffêr 'y derbyniol'."<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), t. 73.</ref> Nodai bod tair o elfennau pwysicaf ffasgaeth – gwladwriaeth-addoliad, mawrygu trais, a marwygumawrygu arweinydd carismataidd – yn absennol o ideoleg a thraddodiad y blaid, os nad yn hollol groes iddi.<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), tt. 31–41.</ref> Gwelai elfen gref o wrth-Gatholigiaeth mewn cyhuddiadau Gwilym Davies ac W. J. Gruffydd.<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), tt. 13–14.</ref> Yn sicr ceir sawl sylwad gwrth-Semitaidd yn ysgrifau Saunders Lewis, ond nodai Richard Wyn Jones bod y fath ragfarn yn gyffredin ymhlith nifer o drigolion Gwledydd Prydain yn ystod yr oes honno, ac os cyhuddir Lewis yn ffasgwr ar sail hynny'n unig, bu rhaid labelu [[Winston Churchill]], [[George Orwell]], a W. J. Gruffydd ei hun yn ffasgwyr hefyd.<ref>Jones, ''Y Blaid Ffasgaidd yng Nghymru'' (2013), tt. 41–47.</ref>
 
=== Wedi'r Ail Ryfel Byd ===