Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Bennett Arron"

Lleihawyd o 2 feit ,  3 blynedd yn ôl
Erthygl newydd using AWB
B (corr)
(Erthygl newydd using AWB)
 
== Gwaith ==
Mae wedi ysgrifennu a serennu yn y cyfresi Radio i'r BBC ''Bennett Arron is JeWelsh'' a ''Bennett Arron Worries About ...'', cafodd y ddwy sioe eu henwebu am y Wobr Cyfryngau Celtaidd. Cyflwynodd rhaglen dogfen ar gyfer teledu'r BBC ''The Kosher Comedian'' lle'r oedd yn olrhain gwreiddiau ei deulu o [[Lithwania]] i Dde Cymru ac yn darganfod y rheswm dros ddirywiad presenoldeb Iddewon yng Nghymru<ref name=":0" />. Yn 2007, ysgrifennodd, cyfarwyddodd a chyflwynodd y rhaglen ddogfen ''How Not to Lose Your Identity'' ar gyfer [[Channel 4]] a oedd yn seiliedig ar ei brofiad ei hun o dwyll hunaniaeth. <ref>{{Cite web|url=https://www.smh.com.au/technology/theft-in-the-internet-age-losing-your-identity-is-no-joke-20110517-1erey.html|title=Theft in the internet age: losing your identity is no joke|date=18 Mai, 2011|access-date=16 Chwefror 2019|website=The Sydney Morning Herald|last=Quinn|first=Karl|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Yn y rhaglen, profodd pa mor hawdd yw hi i gyflawni'r trosedd trwy chwilota trwy finiau sbwriel, a pherswadio pobl i rannu gwybodaeth gyfrinachol yn ddiarwybod iddynt. Bu hyd yn oed yn cynnal stondin mewn canolfan siopa, oedd yn honni gwerthu yswiriant dwyn hunaniaeth, ond mewn gwirionedd roedd yn sgamio pobl i ddatgelu eu holl wybodaeth bersonol. Llwyddodd i ddwyn hunaniaeth yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd , Charles Clarke, ac fe'i harestiwyd wedyn. Ysgrifennodd Bennett gofnod o'i brofiad ''Heard the One About Identity Theft?''.
 
Ysgrifennodd Bennett Nofel Comedi Rhamantaidd, ''The Girl From The Discotheque'', <ref>{{Cite web|url=https://www.goodreads.com/book/show/24702030-the-girl-from-the-discotheque|title=THE GIRL FROM THE DISCOTHEQUE by Bennett Arron|date=|access-date=16 Chwefror 2019|website=Good Reads|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> gan dderbyn ymateb rhagorol gan y beirniaid. Dywedodd gan Ricky Gervais ei fod "Yn ddoniol o'i gychwyn i'w terfyn" a dywedodd Tony Parsons ei fod yn "Llyfr teimladwy, doniol, sy'n son am yr hyn y mae'r galon ei eisiau - waeth pa mor afresymol. Mae'n rhamant a chomedi gyda chalon wedi clwyfo".
 
Mae Bennett wedi ysgrifennu deunydd comedi ar gyfer Hale and Pace, Freddie Starr, The Real McCoy, Large, Stop the World, No Limit, ''The Varrell and Decker Show'', ''Samstag Nacht'', ''The April Hailer Show'', ''The 11 O'Clock Show'', ''Commercial Breakdown'', RISE, ''So Graham Norton'' a sioe Jack Whitehall ''Hit the Road Jack''. Mae wedi actio yn y ffilm Dead Long Enough gyda Michael Sheen.<ref>{{Cite web|url=https://www.gordonpoole.com/talent/bennett-arron/|title=Bennett Arron|date=|access-date=16 Chwefror 2019|website=GORDON POOLE AGENCY LTD|last=|first=|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref>
 
 
Yn ddiweddar, chwaraeodd ran Morris yn Radio 4 Sitcom ALONE
 
{{Rheoli awdurdod}}
 
{{DEFAULTSORT:Arron, Bennett}}
[[Categori:Genedigaethau 1973]]
452,433

golygiad