[[Milwr]] o [[Cymro|Gymro]] a ymladdodd yn [[Rhyfel y Falklands]] yw '''Simon Weston''' [[CBE]] (ganwyd [[8 Awst]] [[1961]]). Ganed ef yn [[Nelson, Caerffili]].
Ymunodd â'r [[Y Gwarchodlu Cymreig|Gwarchodlu Cymreig]] ym 1978 yn 16 oed. Gydag aelodau eraill o'i gatrawd fe'i anfonwyd i ymladd yn [[Rhyfel y Falklands]] (1982). Bu ar [[RFA Sir Galahad|RFA ''Sir Galahad'']] yn Bluff Cove ar [[8 Mehefin]] [[1982]] pan ymosodwyd ar y llong gan awyrennau'r [[Ariannin]]. Rhoddwyd y llong ar dân. Lladdwyd 48 o ddynion a chafodd 97 o ddynion eu hanafu. Cafodd Weston ei losgi'n ddifrifol. Ar ôl blynyddoedd o lawdriniaethau, aeth ymlaen i wneud gwaith elusennol helaeth. Mae wedi ennill llawer o anrhydeddau am ei waith.