Waldo Williams: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Erthygl newydd using AWB
Llinell 32:
}}
{{chart/end}}
Roedd gan Waldo, felly, un brawd a thair chwaer. Bu farw Morfydd yn 13 oed; arferai farddoni gyda Waldo yn Saesneg, yn ôl eu chwaer Dilys. Mewn cofnod o'r cyfnod gan Dilys, dywedodd i Forfydd roi cyngor i Waldo:''"Your poetry won't be any good until you get rid of your adjectives."''
 
Mab Dafi Williams oedd Edwal Williams, tad Waldo. Priododd Martha Thomas yng nghapel Blaenconin yn 1862. Disgrifiodd yr Athro David Williams, [[Aberystwyth]] Edwal fel, ''dyn o gymeriad cryf a dylanwadol... yn radical o'r rheng flaenaf, ac yn sosialydd...''<ref>[''Y Traethodydd''; Hydref 1971.</ref> Nid oedd yn grefyddwr ffurfiol, er ei fod yn aelod o'r Bedyddwyr. Cefnogai ac edmygai [[Keir Hardy]] a [[Walt Whitman]] a darllenai'n helaeth, yn enwedig gwaith Ruskin. Dylanwad arall arno oedd [[Thomas Evan Nicholas]], neu "Niclas y Glais"(1879 - 1971). Roedd yn Gymro Cymraeg rhugl, ond Saesneg oedd iaith y cartref. Gan mai sosialaeth oedd yn dod yn gyntaf iddo, efallai y teimlai fod crefydd a'r Gymraeg yn rhwystr rhag ymledu'r syniadau radical y credai mor gryf ynddynt.
 
===Ochr ei fam===
Roedd Angharad yn berson dwys, afieithus, heb fawr o gariad at waith tŷ. Cymerai gryn ddiddordeb yn syniadau ei gŵr. Does dim rhyfedd iddi ymddiddori ym mhynciau'r dydd ac ym myd rhesymeg ac athroniaeth o edrych ar ei llinach. Garddwr oedd ei thad, prifarddwr ar ystadau enfawr Lloegr am lawer o'i oes, a symudodd ef a'i wraig Margaret Price droeon oherwydd ei waith. Aeth y chwe phlentyn, gan gynnwys Angharad, mam Waldo, i'r coleg. Er nad oedd crefydd ffurfiol yn bwysig iawn gan y teulu, roedd y safonau canlynol yn holl bwysig: gonestrwydd, geirwiredd, ffyddlondeb, caredigrwydd a symylrwydd.
 
Priododd John Jones â Margaret Price, mam-gu Waldo, yn 1875, flywyddyn cyn geni Angharad.