Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Powys"

Ychwanegwyd 6 beit ,  2 flynedd yn ôl
Erthygl newydd using AWB
(Erthygl newydd using AWB)
:''Mae'r erthygl yma am sir Powys. Am yr hen deyrnas ganoloesol gweler [[Teyrnas Powys]].''
[[Delwedd:Powys.jpg|bawd|240px|Logo'r Cyngor]]
[[Sir]] yn nwyrain [[canolbarth Cymru]] sy'n ymestyn ar hyd y gororau yw '''Powys''', a'r sir gyda'r arwynebedd mwyaf yng Nghymru: 5,179  km² (2,000  mi sg). Cafodd ei henwi ar ôl teyrnas ganoloesol [[Teyrnas Powys|Powys]]. Mae'n cynnwys tiriogaeth hen siroedd [[Maldwyn]], [[Maesyfed]] a [[Brycheiniog]]. Mae'n ardal wledig sy'n cynnwys sawl tref farchnad hanesyddol fel [[Machynlleth]], [[Llanfair-ym-Muallt]] a'r [[Trallwng]]. [[Y Drenewydd]] yw canolfan weinyddol y sir, lle ceir prif swyddfeydd yr awdurdod lleol, [[Cyngor Sir Powys]]. Yn 2011 roedd y boblogaeth yn 132,200.
 
Yng Nghyfrifiad 2001 roedd 21% o'r boblogaeth yn siarad [[Cymraeg]].<ref>Bwrdd yr Iaith, (disbanded 2012), [https://www.webarchive.org.uk/wayback/archive/20120330013353/http://www.byig-wlb.org.uk/english/publications/pages/publicationitem.aspx?puburl=%2fenglish%2fpublications%2fpublications%2f332.doc Dalen a archifwyd, 30 Mawrth 2012]</ref>
 
===Cynhanes ac Oes y Celtiaid===
Roedd Teyrnas Powys yn y [[6g]] yn cynnwys dau dreuan o'r hyn a elwir yn Bowys heddiw – y ddau dreuan mwyaf gogleddol, ynghyd â'r rhan fwyaf o [[Swydd Amwythig]]. Daeth i ben pan gafodd ei uno gyda [[Teyrnas Gwynedd|Theyrnas Gwynedd]] dan arweiniad [[Llywelyn ap Gruffudd]] (c. 1223 – 11 Rhagfyr 1282). Ceir 60 o lannoedd ym Mhowys – llefydd sy'n cychwyn gyda "Llan", sy'n dangos fod yma gryn weithgarwch crefyddol yn y 6ed a'r 7ed ganrif.
 
Ond ceir olion [[bod dynol|pobl]] ganrifoedd cyn hyn: gwyddys hyn oherwydd fod arfau [[callestr]] o [[Oes Ganol y Cerrig]] (y mesolythig) wedi'i ganfod yma. Yr hyn sy'n allweddol i'n dealltwriaeth o olion cynhanes (ac wedi hynny) Powys yw fod ynddi dair prif afon, tri dyffryn a thri mynedfa – a thrwyddynt y deuai pobl i'r ardal. Mae'r rhostiroedd i'r de o [[Afon Wysg]] yn debyg iawn i diroedd gogledd Morgannwg, a thrwyddynt hwy y cysylltwyd de Powys gyda Dyffryn Morgannwg a'r [[Môr Hafren]]. Yng nghanol y sir, mae dyffrynoedd yr Wysg ac [[Dyffryn Afon Gwy|Afon Gwy]] hefyd yn fynedfa ac yn ffyrdd tramwy naturiol i'r ardal, a thrwyddynt hwy y daeth y bobl a'r diwylliant Celtaidd a gododd gloddfeydd nodedig [[Talgarth]]. Ychydig i'r gogledd ceir y trydydd mynedfa i Bowys: dyffryn [[Afon Hafren]], gyda'i diroedd ffrwythlon, cyfoethog.
 
Ceir dros 1130 o siambrau claddu o wahanol fathau ym Mhowys, yn dyddio o 4,000CC i 1000CC, gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn perthyn i'r [[Oes Efydd]].<ref>[http://www.cpat.org.uk/projects/longer/pfr/pfr.htm Clwyd-Powys Archaeological Trust: ''Introducing Prehistoric burial and ritual sites.''] Adalwyd 18 Mawrth 2018</ref> Mae 339 ohonynt wedi eu cofrestru fel [[henebion cofrestredig]]. Saif yma, fel cerfluniau o'r Oes Efydd 275 o [[maen hir|feini hirion]], gyda 92 wedi'u cofrestru. Mae yma hefyd 90 o [[bryngaer|fryngaerau]] o [[Oes yr Haearn]] a 54 lloc (tir caeedig) ac aneddiadau. Yn Nhalgarth, o fewn ardal o tua dwy filltir sgwar, ceir 16 siambr claddu o [[Oes Ganol y Cerrig]] (y mesolythig) a ystyrir yn nodedig iawn. Siambrau hirion yw'r rhan fwyaf, gyda cherrig anferthol yn eu gorchuddio fel nenfydau; mae eu cynlluniau mewnol yn hynod o gymhleth ac yn arwydd fod yma bobl soffistigedig iawn, amaethwyr cynnar gyda defodau claddu arbennig. Canfuwyd yr offeryn cerdd hynaf yng Nghymru ym [[Penywyrlod|Mhenywyrlod]], Talgarth a ddyddiwyd i c. 4000 BC; darganfuwyd y siambr gan ffermwr lleol a'r offeryn cerdd ym Mehefin 1972. Ceir siambrau tebyg ym Morgannwg ac yn y Cotswolds a gelwir y math hwn yn [[Beddrodau Hafren-Cotswold|Feddrodau Hafren-Cotswold]].
Ceir dros 80 o seintiau a roddodd eu henwau i lannoedd ym Mhowys ond nid oes unrhyw olion o'r eglwysi cynnar (6g-11g) wedi goroesi ar wahân i un eglwys: [[Llanandras]] lle ceir wal a bwa a all berthyn i arddull Sacsonaidd. Ond ceir dros 20 o gerrig wedi'u haddurno, gan gynnwys [[bedyddfaen]]i; yn eu plith mae bedyddfaen [[Pencraig]] (8g), [[Newchurch, Powys]] (10g neu'r 11g), Defynnog (11g) a [[Partrishow|Phartrishow]] (11g). Mae bedyddfaen Defnnog yn cynnwys addurniadau o ddail ac ysgrifen rwnig a Lombardaidd (ardal yng ngogledd yr Eidal). Ceir nifer o golofnau cerfiedig hefyd (o'r 5g a'r 6g) gan gynnwys: [[Trallong]], [[Carreg Turpillius]], [[Maen Madog]], [[Ystradfellte]] a Charreg Rustece ([[Llanerfyl]]), nifer ohonynt yn cynnwys addurn y [[Croes Geltaidd|Groes Geltaidd]] a chlymau Celtaidd cain. Y mwyaf cain, efallai, yw [[Carreg Llywel]] o'r 8g, sydd bellach wedi'i werthu i'r Amgueddfa Brydeinig yn Llundain am £10.
 
Mae'r rhan fwyaf o'r eglwysi mewn llannau crwn, ar gopa bryn neu ar lan afon, ac mae'r tri ffactor hyn yn dangos eu bod yn perthyn i gyfnod cyn-Gristnogaeth. O'r 10g i'r 12g, trodd y mynachlogydd yn glasau, gyda phob eglwys yn cyfrannu tuag atynt a phob un yn cynnwys abad, offeiriad a chanon. Parhaodd y rhain yn eitha annibynnol hyd nes iddynt gael eu hymgorffori o fewn [[yr Eglwys Gatholig]]. Roedd 7 clas ym Mhowys: [[Llandinam]], [[Llangurig]], [[Meifod]], [[y Clas-ar-Wy]], [[Glascwm]], [[Sant Harmon]] a [[Llanddew]].
 
Mae'r eglwysi'r Oesoedd Canol yn gymysgedd o bensaerniaeth.
 
*[[Abaty Cwm Hir]]
450,490

golygiad