Gwarchae Castell Coety (1404-5): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu |
Erthygl newydd using AWB |
||
Llinell 11:
===Y cefndir===
Ar [[16 Medi]] [[1400]], ymosododd y Tywysog Owain a'i wŷr ar dref a chastell Seisnig [[Rhuthun]], ac ymhen blwyddyn datblygodd yn wrthryfel cenedlaethol, dros [[annibyniaeth]] Gymru gyfan. Enillodd [[Brwydr Bryn Glas|frwydr Bryn Glas]] ar 22 Mehefin 1402, ger Llanandras ar y ffin rhwng Swydd Henffordd a Powys ac ystyrir hon yn fuddugoliaeth bwysig i Owain; cymerwyd arweinydd y fyddin Seisnig, Syr [[Edmund Mortimer]], yn garcharor. Yn nes ymlaen byddai'n priodi Catrin, ferch Owain, ac yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r Mab Darogan yn erbyn brenin Lloegr. Yn 1402 hefyd, pasiodd Senedd Lloegr y [[Deddfau Penyd]], cyfres o ddeddfau yn erbyn y Cymry. Dan y deddfau hyn, gwaherddid unrhyw Gymro, heblaw esgobion, rhag dal unrhyw swydd gyhoeddus, rhag dwyn arfau a rhag byw mewn unrhyw fwrdeistref Seisnig.
Yn [[1403]], cododd Henry Percy (Hotspur) mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin, a gwnaeth gytundeb ag Owain. Lladdwyd Percie ar 21 Gorffennaf 1403, ond agorwyd y drws i lawer o'r teulu ac uchelwyr eraill o Loegr ymuno dan faner Glyn Dŵr. Yn Hydref, ymosododd y Llydawyr a'r Ffrancwyr ar ddwy gastell, ar y cyd gyda milwr Glyn Dŵr: [[Castell Cydweli]] a [[Castell Caernarfon|Chastell Caernarfon]]; er i'r cyrchoedd fod yn fethiant, roeddent yn ddraenen finiog yn ystlys y Saeson. Ar [[10 Mai]] 1404 cynhaliodd Owain gyfarfod o Senedd Llywodraeth newydd Cymru ym [[Machynlleth]] a gytunodd i wneud cais am gymorth milwrol gan Ffrainc, ac erbyn [[14 Mai]] cafwyd cynghrair swyddogol rhwng Cymru a Ffrainc.
===Y ddau warchae===
Digwyddodd y gwarchae cyntaf yn 1404 ychydig wedi i'r fyddin Gymreig gipio cestyll [[Aberystwyth]] a [[Harlech]] a llosgwyd [[Castell Caerdydd]] yn ulw; teithiodd y gwrthryfelwyr Cymreig oddi yno i Goety. Ar yr un pryd, cafwyd gwarchae ar [[y Fenni]]. Ymunodd Cymry Morgannwg fel un gŵr gyda'r Fyddin Gymreig. Roedd yma nifer fawr o Lydaw a Ffrain, criw o rhwng 2,600 a 10,000 o filwyr a oedd wedi glanio ym [[Penfro|Mhenfro]] yn Awst.
Roedd arglwyddi'r [[Mers]] yn bryderus y gallai'r Gwrthryfel ehangu i'w tiroedd hwy, felly, codwyd y mater yn Senedd Lloegr a chytunwyd i wario symiau enfawr o arian ar fyddin o 2,500 o ddynion o siroedd y Mers a ddaeth ynghyd yn [[henffordd]] ar [[13 Tachwedd]] [[1404]], dan arweiniad y tywysog Henry a'i frawd iau Thomas o Lancaster. Penodwyd Thomas yn arweinydd y fyddin, oherwydd fod ganddo mwy o brofiad na'i frawd. Methiant fu eu hymdrech.
Llinell 27:
===Archaeoleg===
Ceir olion y gwarchae ychydig i'r gogledd o'r castell (RCAHMW 224-5), 25-35 metr o'r wal. yr ail dystiolaeth o warchae yw'r bwlch yn y wal gogleddol a chredir fod y ddau beth yma'n gystylltiedig: y peiriannau tafl a'r wal a ddinistriwyd. Mae'n fwy na thebyg mai peiriannau tafl wedi'u gyrru gan bowdwr gwn oedd y rhain; peiriant a elwir yn [[bwmbart]]. Gwyddom i'r fyddin Saesnig ddefnyddio powdwr gwn wrth warchae cestyll Aberystwyth (1407) a Harlech (1409). Gwyddom hefyd i fwmbartiaid gael eu defnyddio'n aml yn y cyfnod hwn mewn gwarchae e.e. yn 1375 Ffrainc pan ddefnyddiwyd sawl bwmbart a fedrai daflu cerrig crwn 100 pwys (
Mae felly'n debygol i'r Saeson o fewn y castell ildio i'r Fyddin Gymreig, ond mae hefyd yn bosib i ail gyrch y Saeson fod yn llwyddiannus ac i'r gwarchae gael ei godi. Un peth sy'n gwbwl sicr, roedd cynnal y gwarchae am gyfnod mor hir, a'r defnydd o beiriannau bwmbart yn arwydd fod y Fyddin Gymreig yn un hynod o bwerus a soffistigedig.
==Cyfeiriadau==
|