Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "William Thomas (Islwyn)"

Ychwanegwyd 164 beit ,  3 blynedd yn ôl
No edit summary
 
Cafodd Islwyn droedigaeth grefyddol a dechreuodd farddoni mewn difrif. Yn [[1854]] dechreuodd bregethu gyda'r [[Methodistiaid]]; fe'i ordeiniwyd yn [[1859]]. Priododd Martha Davies o Abertawe yn [[1864]]. Bu farw ar 20 Tachwedd, 1878, yn 46 oed. Nid anghofiodd ei gariad gyntaf gydol ei oes. Yn ôl un tyst, ei eiriau olaf oedd, "Diolch i ti, Martha, am y cyfan a wnest i mi. Buost yn garedig iawn. 'Rwyf yn mynd at Anne 'nawr".
 
Claddwyd ef yng Nghapel y Babell,<ref>http://ogre-blog.blogspot.com/2006/03/babel-chapel-cwmfelinfach-burial-place.html</ref> yng [[Cwmfelinfach|Nghwmfelinfach]].
 
Mae amgueddfa goffa i Islwyn yng Nghapel y Babell, ger Ynys-ddu, yng ngofal Cymdeithas Goffa Islwyn.