William Roos: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda '250px|bawd|''[[John Jones (Talhaiarn)|Talhaiarn'' (1864) gan William Roos.]] Arlunydd Cymreig oedd '''William...'
 
BDim crynodeb golygu
Llinell 2:
Arlunydd Cymreig oedd '''William Roos''' ([[1808]] - Gorffennaf [[1878]]). Ceir y ffurf 'Roose' ar ei gyfenw hefyd, ond 'Roos' sy'n safonol. Roedd yn frodor o [[Amlwch]], [[Ynys Môn]]. Fe'i cofir am ei bortreadau eiconaidd o rai o [[Cymry|Gymry]] enwog ei gyfnod.<ref>[[Bedwyr Lewis Jones]], 'William Roose', ''Gwŷr Môn'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).</ref>
 
Ceir casgliad o waith William Roos yn [[Amgueddfa Cymru]], [[Caerdydd]]. Mae'r casgliad yn cynnwys portreadau olew ar gynfas ganddo o'r beirdd [[John Jones (Talhaiarn)]], [[Dewi Wyn o Eifion]] a [[Robert ap Gwilym Ddu]], o'r pregethwyr Methodistaidd [[John Elias]] a [[Christmas Evans]], ac o'r diwinydd ac awdur Methodistaidd [[Thomas Charles]].<ref>[[Bedwyr Lewis Jones]], 'William Roose', ''Gwŷr Môn'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).</ref> Paentiodd wrthrychau eraill hefyd, yn cynnwys darluniau o ddigwyddiadau hanesyddol fel ''Marwolaeth [[Owain Glyndŵr]]'', a enillodd wobr iddo yn Eisteddfod Llangollen 1858,<ref>[[Bedwyr Lewis Jones]], 'William Roose', ''Gwŷr Môn'' (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1979).</ref> a phaentiadau bywyd llonydd.
 
Bu farw'r arlunydd yn Amlwch yng Ngorffennaf 1878.