William Davies Evans: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
llun; tacluso; categoriau (braf cael gwybod pan fu fyw!)
Llinell 1:
[[Delwedd:Capt Evans.JPG|200px|bawd|William Davies Evans, tua 1830.]]
Fforiwr o Gymro oedd y Capten '''William Davies Evans''' ([[1790]] - [[1872]]). Yn ogystal â bod yn fforiwr enwog fe'i cofir fel dyfeisydd '[[Gambit Evans]]' mewn [[gwyddbwyll]].
 
Ganwyd Evans mewn ffermdy o'r enw Musland Farm ym Mhlwyfmhlwyf Sant Degwel ger [[Hwlffordd|Hwlffordd]], [[Sir Benfro|Sir Benfro]]. Aeth i'r môr yn ifanc gan wasanaethu ar longau'r Llynges Brydeinig nes daeth Rhyfeloedd [[Napoleon I o Ffrainc|Napoleon]] i ben yn [[1815|1815]]. Wedyn ymunodd â'r Gwasanaeth Post a dod yn gapten pacedlong yr ''Auckland'' a hwyliauhwyliai rhwng MilfforddMilffwrdd a [[Waterford]] yn [[Iwerddon|Iwerddon]]. Nid oes neb yn siwr iawn ymhle y dysgodd chwarae gwyddbwyll ond mae'n debyg iddo ddyfeisio'r [[gambit]] enwog ar y teithiau unig rhwng [[Cymru]] ac [[Iwerddon]].
 
Yn [[1826|1826]], cerddodd y Capten Evans i mewn i Ystafelloedd Gwyddbwyll William Lewis yn St. Martin's Lane, [[Llundain|Llundain]] a chynnig chwarae rhai o chwaraewyr [[Gwyddbwyll|gwyddbwyll]] cryfa'r dydd. Doedd Evans ddim yn adnabyddus fel chwaraewr gwyddbwyll, ond wedi iddo esbonio pam ei fod am eu chwarae llwyddodd i berswadio A. McDonnell i chwarae gêm yn ei erbyn. Roedd McDonnell yn un o'r chwaraewyr gorau gynhyrchodd [[Iwerddon|Iwerddon]] erioed, ac un o'r cryfaf ym [[Prydain |Mhrydain]] ar y pryd. Gorffennodd y gêm ar yr 20fed symudiad a Chapten Evans yn fuddugol. Dyma ddechrau '''Gambit Evans''' sydd wedi cael ei ddefnyddio gan chwaraewyr fel Paul Morphy, Jan Timman, ac yn y [[1990au|1990au]] gan [[Garry Kasparov]], yn fwyaf arbennig mewn buddugoliaeth 25 symudiad yn erbyn Viswanathan Anand ym Mhencampwriaeth Goffa Tal yn [[Riga]], [[1995|1995]].
 
==Ffynonellau==
* [[Iolo Ceredig Jones|Iolo Jones]] a [[T. Llew Jones|T.Llew Jones]], ''A Chwaraei Di Wyddbwyll?'' (Gwasg Gomer, 1980), t. 43-45.
 
{{DEFAULTSORT:Evans, William Davies}}
[[Categori:Genedigaethau 1790]]
[[Categori:Marwolaethau 1872]]
[[Categori:Chwaraewyr gwyddbwyll Cymreig]]
[[Categori:Fforwyr]]
[[Categori:Pobl o Sir Benfro]]
[[Categori:Chwaraewyr gwyddbwyll Cymreig]]
 
[[bg:Уилям Дейвис Евънс]]