Iolo Morganwg: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
llun o'r ''Iolo Manuscripts'' enwog
Llinell 40:
Roedd '''Edward Williams''' ([[10 Mawrth]] [[1747]] - [[18 Rhagfyr]] [[1826]]), sy'n fwy adnabyddus dan ei [[enw barddol]] '''Iolo Morganwg''', yn fardd a hynafiaethydd a aned ym mhentref bychan [[Pennon]], plwyf [[Llancarfan]], ym [[Morgannwg]], de [[Cymru]]. Fe sy'n gyfrifol am y rhan helaeth o seremonïau'r [[Eisteddfod Genedlaethol]], ac fe hefyd a sefydlodd [[Gorsedd y Beirdd|Orsedd Beirdd Ynys Prydain]]. Dim ond yn yr 20fed ganrif y sylweddolwyd ei fod yn un o'r ffugwyr llenyddol mwyaf cynhyrchiol a llwyddianus erioed.
 
==Ei fywydBywgraffiad==
Ganwyd ''Edward Williams'', yn [[1747]], ym mhentre Pennon ym mhlwyf [[Llancarfan]] ond symudodd ei rieni i fyw ym mhentref [[Trefflemin]], rhai milltiroedd yn unig i ffwrdd, ar lan [[Afon Ddawan]], ac yno y'i magwyd ac y bu'n byw am y rhan helaeth o'inoes. Gweithiodd trwy gydol ei oes fel saer maen, ym Morgannwg ac yn [[Lloegr]], ond daeth yn enwog fel hynafiaethwr, [[bardd]] a radical. Yn [[Llundain]] roedd yn aelod ymroddgar o'r [[Cymdeithas y Gwyneddigion|Gwyneddigion]], cylch o lenorion gwladgarol a oedd yn cynnwys [[William Owen Pughe]] ac [[Owen Jones (Owain Myvyr)|Owain Myvyr]]. Daeth i adnabod [[Robert Southey]] a dechreuodd alw ei hun yn "The Bard of Liberty". Fel rhai o lenorion mawr eraill yr oes roedd Iolo'n hoff iawn o [[opiwm]] ar ffurf ''laudanium''.
 
Llinell 54:
:Miloedd yn sôn am Iolo.<ref>Gwallter Davies, 'Cywydd-gofiant Iolo Morganwg', D Silvan Evans (gol.), ''Gwaith Gwallter Mechain'', cyfrol 1 (Caerfyrddin, 1868). Tud. 61.</ref>
 
==Ei waithGwaith llenyddol==
Iolo oedd un o olygyddion tair cyfrol y ''[[The Myvyrian Archaiology of Wales|Myvyrian Archaiology]]'' ([[1801]]-[[1807]]).
 
Llinell 63:
Mae'r rhan fwyaf o lawysgrifau a llyfrau Iolo yn cael eu diogelu yn y [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru|Llyfrgell Genedlaethol]] yn [[Aberystwyth]] ers [[1916]].
 
==Ei ddylanwadDylanwad==
Yn ystod y can mlynedd ar ôl ei farwolaeth yn 1826, daeth enw Iolo Morgannwg yn destun llosg yng Nghymru, wrth i ysgolheigion cyfoes ddatguddio faint o "ddarganfyddiadau" Iolo oedd, mewn gwirionedd, yn ffrwyth dychymyg Iolo ei hun. Ond erbyn heddiw, er bod pawb yn derbyn mai ffugio a wnaeth, mae defodau a seremonïau Iolo wedi ennill eu plwyf ym mywyd diwylliannol Cymru, ac mae Iolo ei hun wedi dod yn arwr i'r Cymry.
 
==Llyfryddiaeth==
[[Delwedd:Iolo Manuscripts 1848 00.JPG|250px|bawd|Argraffiad ffacsimili 1888 o'r ''Iolo Manuscripts'' ([[Isaac Foulkes]], 1888).]]
;Gweithiau Iolo (detholiad)
*''[[Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain]]'' (1829)
*''[[Iolo Manuscripts]]'' ([[The Welsh Manuscripts Society]], 1848; ail argraffiad ffacsimili, [[Isaac Foulkes]], [[Lerpwl]], 1888).
*''[[Coelbren y Beirdd]]'' (1840)
*''[[Dosparth Edeyrn Dafod Aur]]'' (The Welsh Manuscripts Society, 1856)